Cragen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 16:
Mae’r llun<ref name=Bwletin127>Bwletin Llên Natur rhifyn 127[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn127.pdf]</ref> yn dangos Mrs Lewis, Nantgwynant yn chwythu cragen gonc, neu 'conch'. Daeth y llun i‘r [[Ymdiriedolaeth Genedlaethol]] drwy garedigrwydd y diweddar Idris Evans o [[Nantgwynant]] mewn diwrnod agored yn [[Hafod y Llan]]<ref name=Bwletin127/>
 
Mae’n debyg bod y cregyn sydd wedi rhoi gwasanaeth fel CYRN GALW yn fwy tebygol o fod wedi ei taflud i’r bin sbwriel ar ôl i’r cyfnod galw gweithwyr o’r caeau fynd heibio gan eu bod yn ddi-bigyn ac felly yn anghyflawn a di-addurn?
Mae un debyg sydd bellach yn Amgueddfa [[Caerfyrddin]], sef [[Cragen Beca]]. Mae son amdani yn [[Talog|Nhalog]] yn y flwyddyn [[1839]], pan ffrwydrodd [[Helyntion Beca|terfysgoedd Beca]], pan ddaeth yr holl anniddigrwydd cymdeithasol a fu’n corddi’n hir a chythryblu’r werin o’r diwedd i’r wyneb. Y flwyddyn helbulus honno fe dorrodd yr argae. Ac mae’n ddiddorol nodi bod Cragen Beca yn cael ei defnyddio i alw’r terfysgwyr at ei gilydd; pob ffermwr, pob tyddynwr, pob gwas yn yr ardal i’r man cyfarfod yn y pentref. Gwyddys i sicrwydd i rai o gyfarfodydd Beca gael eu cyhoeddi o fewn muriau Bethania. Bu Talog un o’r canolfannau pwysicaf yn y Sir. Mae’n hawdd tybio bod sŵn y gragen i’w glywed yn fynych yn galw’r protestwyr i’r gad.</br>
 
Mae gen i ddwy sydd yn hen iawn, roeddynt yn eiddo i fy hen nain a oedd yn byw yn Nhrefor ond yn enedigol o Borthdinllaen. Clywais fy mam yn dweud eu bod wedi dod o Ynysoedd Môr y De pan oedd fy hen daid yn gapten llong<ref>Gwenda Williams ym Mwletin Llên Natur 127[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn127.pdf]</ref>
 
Mae un debyg, meddai Peter Cutts, sydd bellach yn Amgueddfa [[Caerfyrddin]], sef [[Cragen Beca]]. Mae son amdani yn [[Talog|Nhalog]] yn y flwyddyn [[1839]], pan ffrwydrodd [[Helyntion Beca|terfysgoedd Beca]], pan ddaeth yr holl anniddigrwydd cymdeithasol a fu’n corddi’n hir a chythryblu’r werin o’r diwedd i’r wyneb. Y flwyddyn helbulus honno fe dorrodd yr argae. Ac mae’n ddiddorol nodi bod Cragen Beca yn cael ei defnyddio i alw’r terfysgwyr at ei gilydd; pob ffermwr, pob tyddynwr, pob gwas yn yr ardal i’r man cyfarfod yn y pentref. Gwyddys i sicrwydd i rai o gyfarfodydd Beca gael eu cyhoeddi o fewn muriau Bethania. Bu Talog un o’r canolfannau pwysicaf yn y Sir. Mae’n hawdd tybio bod sŵn y gragen i’w glywed yn fynych yn galw’r protestwyr i’r gad.</br>
Mor hwyr â mis Rhagfyr [[1910]], defnyddiwyd y gragen i nodi dyfodiad ymgeisydd am etholaeth Gorllewin Sir Gâr am gyfarfod yn y capel yn ystod yr [[Etholiad Cyffredinol]].<ref>Peter Cutts ym Mwletin Llên Natur rhifyn 127[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn127.pdf]</ref>