Madog ap Selyf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Madog ap Selyf''' (fl. cyn [[1282]]) yn llenor o Gymro yn yr iaith [[Lladin|Ladin]].
 
Ychydig iawn sy'n hysbys amdano. Tybir ei fod yn ŵr eglwysig yn [[Abaty Ystrad Fflur]], ond nid oes tystiolaeth uniongyrchol o hynny. Posiblrwydd arall yw ei fod yn gysylltiedig â [[Llanbadarn Fawr|Llanbadarn]].
 
Cyfieithodd o leiaf ddau destun Lladin i'r Gymraeg rywbryd yn drydydd chwarter y [[13eg ganrif]]. Un ohonynt yw trosiad [[Cymraeg]] o'r ''Turpini Historia'', sy'n adrodd rhan o hanes [[Siarlymaen]], dan y teitl ''[[Cronicl Turpin]]''. Mae'r testun i'w cael yn [[Llyfr Gwyn Rhydderch]]. Dyma a geir mewn coloffon i'r dudalen gyntaf:
Llinell 7:
 
Ar ofyniad [[Gruffudd ap Maredudd ab Owain]], un o ddisgynyddion [[yr Arglwydd Rhys]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]], y gwnaeth Madog y gwaith, felly. Rydymm yn gwybod ei fod wedi trosi testun arall o'r Lladin i Gymraeg yn ogystal. Cyfieithiad o'r testun crefyddol poblogaidd ''[[Transitus Mariae]]'' yw hynny. Unwaith eto mae'r testun yn y Llyfr Gwyn.
 
==Llyfryddiaeth==
Gweler rhagymadrodd Stephen J. Williams i'w olygiad o ''[[Ystorya de Carolo Magno]]'' (Caerdydd, 1968).
 
 
[[Categori:Llên Ladin Cymru]]