Guto Ffowc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn dileu "PortraitOfGuyFawkes.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Zscout370 achos: Per commons:Commons:Deletion_requests/File:PortraitOfGuyFawkes.jpg.
llun newydd; categoriau
Llinell 1:
[[Delwedd:Guy Fawkes.jpg|200px|bawd|Guto Ffowc: llun dychymygol (1900).]]
 
Yr oedd '''Guto Ffowc''' ('''Guy Fawkes''' neu '''Guido Fawkes''': [[13 Ebrill]] [[1570]] – [[31 Ionawr]] [[1606]]), yn aelod o grŵp o [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Catholigion Rufeinig]] [[Lloegr|Seisnig]] a geisiodd gyflawni [[Cynllwyn y Powdr Gwn]] (neu'r 'Gynllwyn Babaidd'), ymgais i chwythu i fyny [[Senedd Lloegr]] a lladd y brenin [[Iago I o Loegr]], a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]] trwy ladd y pendefigion Protestannaidd, ar [[5 Tachwedd]] [[1605]], digwyddiad a goffheir ar [[Noson Guto Ffowc]]. Aflwyddianus fu'r gynllwyn.
 
Ganed Guto yn [[Efrog]], a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin [[Sbaen]]. Cyflwynwyd ef i [[Robert Catesby]], arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro [[Hugh Owen (cynllwynwyr Catholig)|Hugh Owen]]. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei [[artaith|arteithio]], ei gael yn euog o [[Teyrnfradwriaeth|deyrnfradwriaeth]] a'i [[dienyddiad|ddienyddio]] dri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf [[Eidaleg]] ''Guido'', sy'n rhoi ''Guto'' yn Gymraeg.
 
Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda ''guto'' - dymi wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowcs. Ar y noson honno rhoddid y guto ar ben y [[coelcerth|goelcerth]] a'i losgi.
 
{{DEFAULTSORT:Ffowc, Guto}}
[[Categori:Genedigaethau 1570|Ffowc, Guto]]
[[Categori:Marwolaethau 1606|Ffowc, Guto]]
[[Categori:Catholigion Seisnig]]
[[Categori:Hanes Lloegr|Ffowc, Guto]]
[[Categori:Pobl o Swydd Efrog]]
 
{{eginyn Saeson}}
 
[[Categori:Genedigaethau 1570|Ffowc, Guto]]
[[Categori:Marwolaethau 1606|Ffowc, Guto]]
[[Categori:Hanes Lloegr|Ffowc, Guto]]
 
[[ar:جاي فوكس]]