Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhethreg"

Lleihawyd o 2 feit ,  blwyddyn yn ôl
B
B (Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB)
Tagiau: 2017 source edit
 
 
=== Yr Oesoedd Canol ===
[[Sant Awstin o Hippo]], un o'r [[Tadau’rTadau'r Eglwys|Tadau Eglwysig]] boreuaf, oedd un o'r cyntaf i ysgrifennu esiampl rethregol i'r Cristion. Y pedwerydd llyfr o'i destun ''De doctrina christiana'' yw'r ddamcaniaeth rethregol gyntaf at ddiben y gweinidog neu'r pregethwr Cristnogol. Nid yw'r gwaith yn ceisio osod rhethreg yn uwch na diwinyddiaeth neu resymeg, ond ymdrechodd i gyfuno dehongliad y Beibl â rhethreg.
 
Yn niwedd y 13g, blodeuodd dau o ddisgyblion yr athronydd Almaenig [[Albertus Magnus]] a gawsant ddylanwad sylweddol ar addysg y prifysgolion canoloesol: [[Tomos o Acwin]] a Phedr o Sbaen (yn hwyrach [[Pab Ioan XXI]]). Dysgawdwr pennaf y cwricwlwm diwinyddol oedd Tomos, a ysgrifennodd ar resymeg yr haniaeth a symbolaeth. Cafodd ei ysgrifau ddylanwad ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth fel ei gilydd, yn bennaf traddodiad yr [[ysgolaeth|ysgolwyr]]. Athro blaena'r [[celfyddydau breiniol]] oedd Pedr ac efe oedd yn gyfrifol am osod rhesymeg yn bwnc y mae'r myfyriwr rhethreg yn anelu at ei astudio. Ysgrifennodd ar resymeg y [[dilechdid]].
66,976

golygiad