Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tylluan Wen (ffilm)"

Ychwanegwyd 60 beit ,  3 blynedd yn ôl
→‎Crynodeb: Ychwanegi fwy i'r crynodeb
BNo edit summary
(→‎Crynodeb: Ychwanegi fwy i'r crynodeb)
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Android app edit
 
== Crynodeb ==
Mae Martha/Eirlys yn dychwelyd at yr ardal lle y'i ganed hi i ddial ar Ifor Preis, ei chyn-brifathro, am farwolaeth ei thad. Mae hi'n gorfodi Ifor Preis i odinebu ar ei wraig ffyddlon (Meri) ac yn codi cywilydd ar y ddau, wrth iddi gyhoeddi'i pherthynas ag Ifor o flaen eu holl ffrindiau. Mae Martha yn dweud i Meri beth mae Ifor a hi wedi gwneud. Ceisia Ifor Preis, yn gandryll, ei thagu cyn ei gollwng. Wedyn mae Martha yn dial am farwolaeth ei thad trwy daro Ifor Preis ar ei ben â'i thelyn. Gwêl merch Ifor Preis, sef Gwen, y llofruddiad, a rhed i ganol yr heol. I achub bywyd Gwen mae Martha'n aberthu ei hunan wrth wthio Gwen allan o'r ffordd.
 
Newidia Martha ei henw o Eirlys i Martha i geisio sicrhau na chaiff ei hadnabod, ond erbyn y diwedd mae hen gogyddes yr ysgol, Mrs Roberts, yn darganfod pwy ydy hi wrth iddi ymweld â bedd ei thad. Yn ogystal â Mrs Roberts, mae Roger, sef cyn-ddisgybl yn yr ysgol, yn ei hadnabod o hen lun ysgol.
5

golygiad