Castell Baglan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Egin tudalen
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
 
Ychwanegu at egin erthygl
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 3:
Mae Plas Baglan yn enghraifft prin iawn o gastell o waith maen a adeiladwyd gan arweinyddion Cymreig yn y ddeuddgfed ganrif.
 
Mae’r castell yn sefyll ar ochrau Mynydd Dinas mewn safle cryf yn dominyddu y tir rhwng y bryniau a’r môr ble saif tre Port Talbot heddiw. Yn y ddeuddegfed ganrif oedd ar y ffin gyda’r Normaniaid a’u cestyll yng Nghynffig a Phenybont.
 
Er bod coedwig yn tyfu dros y safle nawr, mae olion y waliau yn dangos ffurf a maint y castell oedd yn cynnwys tŵr neu neuadd ar y llawr uchaf.
 
Ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sy’n bodoli, ond cyfnod cynnar y castell, ei ffurf a’r safle unig yn awgrymu’n gryf oedd e’n gadarnle Arglwyddi Cymreig Afan. Mae’n debyg yr adeiladwyd gan Morgan Gam (1217-1241). Gyda chestyll y Normaniaid ym Mhenybont a Chynffig oedd Plas Baglan ar y ffin.
 
Defnyddiwyd e i lywodraethu’r ardal ond ar ol i Arglwyddi Afan adeiladu castell yn Aberafan (ar ol i’r Arglwydd Rhys ddinistrio castell Normaidd Aberafan yn 1153) a chreu tref yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y collodd ei bwysigrwydd amddiffynol.
 
Datblygodd y castell fel cartre i’r teulu gyda chysylltiadau yn hwyrach gyda’r bonheddwr- bardd Ieuan Gethin ab Ifan ap Lleisan ap Rhys (1400-1480).
 
Credir oedd Plas Baglan “Castell y wiryones”, y mwya gorllewinol o’r tri castell a nodwyd ym Mhaglan gan Edward Llwyd (gyda Chastell Bolan a chaer o’r Oes Haearn).
 
Mae’n debyg roedd yn adfail yn yr ail ganrif ar bymtheg.