Terwyn Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Terwyn_davies.jpg|frame|right|Terwyn Davies]]Darlledwr yw [[Terwyn Davies]] (ganwyd [[3 Ebrill]] [[1979]]). Magwyd yn Nyffryn Aeron, [[Ceredigion]], a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Felin Fach ac yna Ysgol Gyfun Aberaeron. Aeth yn ei flaen i [[Prifysgol Cymru, Bangor|Brifysgol Cymru Bangor]] i ddilyn cwrs gradd mewn [[Cyfathrebu]], a chwrs ôl-radd mewn [[Newyddiaduraeth]]. Ar hyn o bryd, mae'n cyflwynogweithio rhaglenfel [[BwletinCynhyrchydd Ffermio]]rhaglen bob dydd Mawrth a dydd GwenerBro ar [[S4C Digidol]].
 
== Radio Ceredigion ==
Llinell 11:
Yn Hydref 2007, fel rhan o newidiadau i ail-strwythuro gwasanaeth C2, daeth rhaglenni Steve a Terwyn i ben.
 
Ym mis Ebrill 2008, ymunodd Terwyn â thîm rhaglen [[Galwad Cynnar]] ar BBC Radio Cymru fel gohebydd achlysurol. Ers mis Rhagfyr 2008, mae'n gyfrannwr rheolaidd i raglen foreol [[Dafydd Du]] ac [[Eleri Siôn]] ar BBC Radio Cymru, yn adolygu'r papurau dyddiol ysgafn. Hefyd, ers mis Ebrill 2009, mae Terwyn yn cyflwyno'r bwletinau newyddion amaeth dyddiol ar raglen foreol [[Rebecca Jones]], tra bo'r cyflwynydd arferol, [[Dei Tomos]] ar ei wyliau. Mae hefyd yn cyflwyno rhaglen Geraint Lloyd weithiau pan mae yntau ar ei wyliau.
 
== Gwaith teledu ==
Yn ei fywyd personol, mae Terwyn wedi gweithio i gwmni cynhyrchu [[Telesgôp|Telesgop]] ers 2001 lle dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen ''[[Ffermio (rhaglen deledu)|Ffermio]]''. Bu'n gynhyrchydd rhyngweithiol, yn gyfrifol am wefan ''Ffermio'' a gwasanaeth botwm coch sy'n cyd-fynd â'r rhaglen rhwng 2005 a 2008.
 
Rhwng mis Awst 2008 a Mai 2009, bu'n gweithio fel cyflwynydd a chynhyrchydd ar chwaer raglen Ffermio, sef Bwletin Ffermio fu'n darlledu ar S4C Digidol bob dydd Mawrth a dydd Gwener am 1.30pm, ac maebu hefyd yn cyflwyno rhaglenni radio arbennig ar gyfer gwefan Ffermio.tv.
 
Ers Mai 2009, mae Terwyn yn gweithio fel cynhyrchydd ar gyfres newydd ''Bro'' ar S4C gyda [[Shân Cothi]] a [[Iolo Williams]], lle maen nhw'n ymweld ag ardaloedd gwahanol o Gymru bob wythnos, yn dod i adnabod yr ardal honno drwy ei hanes, ei thirlun a'i phobl.
 
Yn ei fywyd preifat, mae Terwyn wedi dioddef o [[atal dweud]] ers yn blentyn, a gwnaeth hyn greu trafferthion iddo yn ystod ei blentyndod a'i arddegau. Oherwydd ei brofiad ar y radio ar hyd y blynyddoedd, mae bellach wedi dysgu i reoli'r atal dweud ac mae'r cyflwr bron yn diflannu'n gyfangwbl tra'i fod yn darlledu.
 
Mae Terwyn bellach wedi ymgartefu gyda'i wraig yn ardal Tanerdy yn nhref [[Caerfyrddin]].