Julio Cortázar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B s
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
[[Nofelydd]], awdur [[stori fer|straeon byrion]], [[bardd]], [[dramodydd]], ac [[ysgrif]]wr [[Archentwyr|Archentaidd]] yn yr iaith [[Sbaeneg]] oedd '''Julio Cortázar''', a ysgrifennai hefyd dan y ffugenw '''Julio Denis''' ([[26 Awst]] [[1914]] – [[12 Chwefror]] [[1984]]). Mae ei waith yn nodedig am ei dechnegau arbrofol a'i themâu [[dirfodaeth|dirfodol]]. Roedd yn un o brif lenorion y ''boom latinoamericano'' ac yn un o'r ffigurau pwysicaf yn [[llên yr Ariannin]] yn yr 20g.
 
Ganwyd yn [[IxelessIxelles]], un o fwrdeistrefi [[Rhanbarth Brwsel-Prifddinas|Brwsel]], [[Gwlad Belg]], yn fab i rieni Archentaidd. Wedi'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]], symudodd y teulu yn ôl i'r [[Ariannin]] ac yno cafodd ei addysg. Gweithiodd fel athro a [[cyfieithydd|chyfieithydd]]. Ysgrifennodd ei nofelau cyntaf yn 1949 (''Divertimento'') a 1950 (''El Examen''), ond ni chawsant eu cyhoeddi nes ar ôl ei farwolaeth. Roedd Cortázar yn anfodlon â llywodraeth [[Juan Perón]] a sefyllfa'r dosbarth canol yn yr Ariannin, ac ymfudodd felly i [[Paris|Baris]], [[Ffrainc]], yn 1951.
 
Yn 1951 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o straeon byrion, ''Bestiario'', ac yn ddiweddarach casglwyd rhagor o'i ffuglen yn ''Final del juego'' (1956), ''Las armas secretas'' (1958), ''Historias de cronopios y de famas'' (1962), ''Todos los fuegos el fuego'' (1966), ''Un tal Lucas'' (1979), a ''Queremos tanto a Glenda, y otros relatos'' (1981). Ystyrir yr [[gwrthnofel|wrthnofel]] ''Rayuela'' (1963) yn gampwaith Cortázar. Cyhoeddodd dair nofel arall yn ystod ei oes: ''Los premios'' (1960), ''62/modelo para armar'' (1968), a ''Libro de Manuel'' (1973). Ysgrifennodd hefyd farddoniaeth, dramâu, a sawl cyfrol o ysgrifau.