Plaid Cyfiawnder a Datblygu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '200px|bawd|Logo'r AKP. Plaid wleidyddol yn Nhwrci yw '''Plaid Cyfiawnder a Datblygu''' (Tyrceg: '''''Adalet ve Kalkınm...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:08, 2 Mehefin 2010

Plaid wleidyddol yn Nhwrci yw Plaid Cyfiawnder a Datblygu (Tyrceg: Adalet ve Kalkınma Partisi, talfyrir fel 'AK Parti' neu AKP). Mae'r AKP yn dweud ei bod yn blaid gymhedrol a cheidwadol sy'n argymell economi marchnad rydd ac sydd o blaid aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i Dwrci.[1] Yn 2005, rhoddwyd aelodaeth dyst i'r AKP yr European People's Party. Enillodd AKP 46.6% o'r bleidlais gan ennill 341 sedd yn etholiad Twrci 22 Gorffennaf 2007.[2] Abdullah Gül, aelod blaenllaw o'r AKP a chyn Weinidog Tramor, yw Arlywydd cyfred Twrci, a Recep Tayyip Erdoğan yw arweinydd y blaid a Phrif Weinidog Twrci. Mae gan yr AKP y canran uchaf o gynrychiolwyr benywaidd yn Senedd Twrci.

Logo'r AKP.

Sefydlwyd y blaid ar 14 Awst, 2001. Lleolir ei phencadlys yn Ankara, prifddinas y wlad. Mae'n cael ei ystyried yn blaid canol-de.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

  Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.