Sulien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tresillian
Llinell 6:
Roedd Sulien, sy'n gysylltiedig yn bennaf a [[clas|chlas]] [[Llanbadarn Fawr]], yn enwog am ei ysgolheictod. Bu ganddo bedwar mab, sef [[Rhygyfarch]], Daniel, [[Ieuan ap Sulien|Ieuan]] ac [[Arthen ap Sulien|Arthan]], a pharhawyd traddodiad Llanbadarn o ysgolheictod ganddynt hwy a chan ei meibion hwythau.
 
Mae'r wybodaeth am Sulien yn dod o gerdd [[Lladin|Ladin]] a ysgrifennodd ei fab Ieuan iddo. Dywed fod Sulien o dras bonheddig, a'i fod wedi treulio tair blynedd ar ddeg yn astudio yn [[Iwerddon]]. Bu'n Esgob Tyddewi ddwywaith, o [[1073]] hyd [[1078]] ac yna o [[1080]] hyd [[1085]]. Mae'n ymddangos fod y pentref [[Tresillian]] yng [[Cernyw|Nghernyw]] wedi'i enwi ar ei ôl.
 
==Cyfeiriadau==