Shtisel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[File:Hadas Yaron.jpg|thumb|Hadas Yaron sy'n chwarae Libbi Shtisel]]
Cyfres ddrama deledu ffuglennol o [[Israel]] yw Shtisel ([[Hebraeg]]: שטיסל) am deulu Iddewig o'r cyfenw hwnnw sy'n byw ym [[maestref]] Geula, [[Jeriwsalem]].<ref name="Ghert-Zand">{{cite news|last1=Ghert-Zand|first1=Renee|title=Why I Can't Stop Watching 'Shtisel'|url=http://forward.com/culture/334808/why-i-cant-stop-watching-shtisel/|accessdate=5 April 2016|work=The Forward|date=4 March 2016}}</ref> Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Ori Elon a Yehonatan Indursky, [1] a darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 29 Mehefin 2013 ar sianel deledu Israeli Hebraeg, ''yes Oh''. Yn dilyn ei llwyddiant yn Israel mae wedi ei ffrydio ar-lein yn fyd-eang ar sianel [[Netflix]].<ref>{{cite news|date=18 December 2018|url=https://www.rapidtvnews.com/2018121854520/netflix-picks-up-shtisel-from-dori.html|title=Netflix picks up Shtisel from Dori|newspaper=Rapid TV News}}</ref>
 
Mae'r gyfres yn ymwneud â ymgais Akiva Shtisel (artist talentog, golygus a swil) i ganfod gwaraig a'i ymdrechion aflwyddiannus. Ceir cip olwg ar natur carwriaeth o fewn y gymuned Charedi gydag unigolion yn cwrdd â darpar gariadon, yn aml wedi eu trefnu gan eu teulu neu trefnydd cariadon. Ond trinir hefyd ag ymdrechion ei chwaer, Giti, i ddal dau pen-llinyn yghŷd a delio gyda gŵr sy'n godinebu a chwestiynu ei ffydd. Mae ail fab y teulu, Zvi-Arye yn ceiso byw at ddisgwyliadau ei dad ac yn ymladd gyda'i gydwybod a yw canu a cherddoriaeth yn ffordd weddus iddo fyw. Ceir rheolau clir ar wisg, cyffwrdd, bwyd, cadw'r Sabath a thrafodaethau am yr hyn sy'n kosher neu beidio. Ceir hefyd gip ar agweddau'r Charedi at y byd y tu allan i'w cymuned ei hunain.
 
Mae'r gyfres wedi cael ei hystyried yn arloesol gan ei bod yn trin bywyd teulu a chymuned o Iddewon Uniongred trwy eu tynnu oddi ar eu cymdeithasau gwleidyddol a'u darlunio fel pobl “gyffredin”.<ref>{{Cite book|title=Directed by God: Jewishness in Contemporary Israeli Film and Television|last=Peleg|first=Yaron|publisher=University of Texas Press|year=2016|isbn=9781477309506|location=Austin, Texas|pages=112}}</ref> Mae'n dilyn bywydau Shulem Shtisel (Dov Glickman), y penteulu Shtisel a [[Rabbi]] yn y yeshiva lleol,<ref>{{Cite web|url=https://meaww.com/top-10-non-english-shows-watch-netflix-2019-money-heist-shtisel-protector-sacred-games-dark-perfume|title=Netflix Top 10: From 'The Protector', and 'Sacred Games' to 'Money Heist', the top non-English shows on Netflix|last=Sarkar|first=Barnana|date=January 4, 2019|language=en|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=2019-01-17}}</ref> yn ogystal â rhai'r aelodau eraill o'i deulu. Mae'r gyfres Shtisel, sy'n rhedeg 12 pennod fesul tymor, wedi'i leoli mewn cymdogaeth grefyddol, ddi-Rhyngrwyd.<ref>{{Cite web|url=https://www.jpost.com/Israel-News/Netflix-adds-a-stream-of-new-Israeli-content-576965|title=Netflix adds a stream of new Israeli content - Israel News - Jerusalem Post|website=www.jpost.com|access-date=2019-01-17}}</ref> Mae'r gymuned yn dilyn arferion haredi llym ac mae torri'r normau yn aml yn achosi tensiwn yn y teulu.<ref>{{Cite web|url=https://www.jweekly.com/2019/01/14/hit-israeli-tv-show-shtisel-pushes-haredi-community-boundaries/|title=Hit Israeli TV show 'Shtisel' pushes Haredi community boundaries|last=Kustanowitz|first=Esther D.|date=2019-01-14|website=J.|language=en-US|access-date=2019-01-17}}</ref> Fodd bynnag, mae'r cymeriadau, sy'n fwy agored i ffordd o fyw seciwlar, yn adlewyrchu cymedroli Geula o'u cymharu â'u cymdogion yn Mea She'arim, y gymuned gyfagos sy'n adnabyddus am eithafiaeth grefyddol. [7] Mae'r gyfres ddrama wedi llwyddo i newid barn pobl am y gymuned Charedi uniongred gan eu gweld mewn golau gwahanol.<ref>https://www.thejc.com/comment/comment/shtisel-the-show-that-changed-my-mind-about-the-charedim-1.481155</ref>
Llinell 10 ⟶ 12:
 
Mae'r gyfres ddrama yn cyd-fynd â chyfres ddrama arall o Israel am gymuned ac unigolion [[Iddewig]] uniongred, sef [[Srugmin]]. Yn wahanol o Shtisel, dydy'r cymeriadau yn Srugim ddim yn Iddewon o'r gymuned [[Charedi]] (Haredi), ond maent yn uniongred ac yn delio gyda bywyd a charwriaeth bob dydd o fewn terfynnau eu crefydd â'r crêd.
 
==Iaith==
Un hynodrwydd o'r gyfres yw natur ddwyieithog y ddeialog, gyda chymeriadau hŷn yn aml yn siarad [[Iddeweg]] gyda'i gilydd ac weithiau Hebraeg. Gellir gweld dirywiad yr iaith yn y ffaith mai dim ond [[Hebraeg]] mae'r plant iau yn ei siarad.
 
==Cast==