Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Shtisel"

Lleihawyd o 1 beit ,  blwyddyn yn ôl
 
==Stori==
Mae'n dilyn bywydau Shulem Shtisel (Dov Glickman), y penteulu Shtisel a [[Rabbirabi]] yn y yeshiva lleol,<ref>{{Cite web|url=https://meaww.com/top-10-non-english-shows-watch-netflix-2019-money-heist-shtisel-protector-sacred-games-dark-perfume|title=Netflix Top 10: From 'The Protector', and 'Sacred Games' to 'Money Heist', the top non-English shows on Netflix|last=Sarkar|first=Barnana|date=January 4, 2019|language=en|archive-url=|archive-date=|dead-url=|access-date=2019-01-17}}</ref> yn ogystal â rhai'r aelodau eraill o'i deulu. Mae'r gyfres Shtisel, sy'n rhedeg 12 pennod fesul tymor, wedi'i leoli mewn cymdogaeth grefyddol, ddi-Rhyngrwyd.<ref>{{Cite web|url=https://www.jpost.com/Israel-News/Netflix-adds-a-stream-of-new-Israeli-content-576965|title=Netflix adds a stream of new Israeli content - Israel News - Jerusalem Post|website=www.jpost.com|access-date=2019-01-17}}</ref> Mae'r gymuned yn dilyn arferion haredi llym ac mae torri'r normau yn aml yn achosi tensiwn yn y teulu.<ref>{{Cite web|url=https://www.jweekly.com/2019/01/14/hit-israeli-tv-show-shtisel-pushes-haredi-community-boundaries/|title=Hit Israeli TV show 'Shtisel' pushes Haredi community boundaries|last=Kustanowitz|first=Esther D.|date=2019-01-14|website=J.|language=en-US|access-date=2019-01-17}}</ref> Fodd bynnag, mae'r cymeriadau, sy'n fwy agored i ffordd o fyw seciwlar, yn adlewyrchu cymedroli Geula o'u cymharu â'u cymdogion yn Mea She'arim, y gymuned gyfagos sy'n adnabyddus am eithafiaeth grefyddol.
 
Mae llawer o ddeinameg y gyfres yn ymwneud ag ymdrechion Akiva Shtisel (artist talentog, golygus a swil) aflwyddiannus i ganfod gwraig a bod yn driw i'w dalent artistig. Ceir cip olwg ar natur carwriaeth o fewn y gymuned Charedi gydag unigolion yn cwrdd â darpar gariadon, yn aml wedi eu trefnu gan eu teulu neu trefnydd cariadon. Ond ymdrinir hefyd ag ymdrechion ei chwaer, Giti, i ddal dau pen-llinyn yghŷd a delio gyda gŵr sy'n godinebu a chwestiynu ei ffydd. Mae ail fab y teulu, Zvi-Arye, yn ceiso byw at ddisgwyliadau ei dad ac yn ymladd gyda'i gydwybod a yw canu a cherddoriaeth yn ffordd weddus iddo fyw. Ceir rheolau clir ar wisg, cyffwrdd, bwyd, cadw'r Sabath a thrafodaethau am yr hyn sy'n kosher neu beidio. Ceir hefyd gip ar agweddau'r Charedi at y byd y tu allan i'w cymuned ei hunain.