Dinas Efrog Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 23:
Dinas yn [[Talaith Efrog Newydd|Nhalaith Efrog Newydd]] yw '''Dinas Efrog Newydd''' ([[Saesneg]]: ''New York City''). Hi yw'r ddinas fwyaf poblog yn [[Unol Daleithiau America]] tra bod ardal fetropolitanaidd Efrog Newydd ymysg ardaloedd mwyaf poblog y byd. Dinas ryngwladol flaenllaw ydyw, gyda dylanwad sylweddol yn fyd-eang ar fasnach, economi, diwylliant, ffasiwn ac adloniant. Yma hefyd ceir pencadlys y [[Cenhedloedd Unedig]], ac felly mae'n ganolfan bwysig o safbwynt materion rhyngwladol.
Fe'i lleolir ar arfordir Gogledd-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau ar lannau [[Môr Iwerydd]]. Mae yno bum mwrdeisdref: Y [[Bronx]], [[Brooklyn]], [[Manhattan]], [[Queens]], ac [[Ynys Staten]]. Mae yno boblogaeth amcangyfrifol o 8,274,527 o bobl mewn ardal ychydig ynllai na 305 milltir sgwâr (790
Mae Efrog Newydd fwyaf adnabyddus ymysg dinasoedd yr Unol Daleithiau am ei threfnidaeth 24 awr, ac am ei dwysedd a'r amrywiaeth o bobl sy'n trigo yno. Yn 2005, roedd bron 170 o ieithoedd yn cael eu siarad yn y ddinas a ganwyd 36% o'i phoblogaeth y tu allan i'r Unol Daleithiau. Weithiau cyfeirir at y ddinas fel "Y Ddinas sydd Byth yn Cysgu", tra bod ei ffugenwau eraill yn cynnwys "''Gotham''" a'r "''Big Apple''".
Sefydlwyd Efrog Newydd fel canolfan fasnachu gan y ''[[Dutch East India Company]]'' ym 1624. Galwyd y lleoliad newydd yn Amsterdam Newydd tan 1664 pan ddaeth y drefedigaeth o dan reolaeth Brydeinig. Bu Efrog Newydd yn brifddinas yr Unol Daleithiau o 1785 tan 1790, ac ers hynny dyma yw dinas fwyaf y genedl ers 1790.
Llinell 32:
== Hanes ==
Dechreuodd gwladychiad Ewropeaidd cyntaf o'r ardal yn 1614 a sefydlodd yr Iseldirwyr [[Amsterdam Newydd]] ym 1626, ar ran deheuol Manhattan. Ymsefydlodd nifer o Huguenotiaid yno hefyd, yn chwilio am ryddid crefyddol. Cipwyd y ddinas gan y Saeson yn 1664, a'i hail-enwi'n
Datblygodd pwysigrwydd Dinas Efrog Newydd fel porthladd masnachol tra'r oedd o dan reolaeth Brydeinig. Cynhaliodd y ddinas achos llys arloesol John Peter Zenger ym 1735, a geisiodd sefydlu rhyddid y wasg yng [[Gogledd America|Ngogledd America]]. Ym 1754, sefydlwyd Prifysgol Columbia gan siarter George II o'r [[DU]] fel Coleg y Brenin ym Manhattan Isaf. Cyfarfu Cynghrair y Ddeddf Stamp yn Efrog Newydd ym mis Hydref 1765.
Llinell 38:
Daeth y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer cyfres o frwydrau mawrion a adwaenid fel [[Ymgyrch Efrog Newydd]] yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]]. Ar ôl Brwydr Ffort Washington ym Manhattan Uchaf ym 1776, daeth yn ddinas yn ganolbwynt gwleidyddol a milwrol Prydain yng Ngogledd America tan ddaeth y meddianaeth milwrol i ben ym 1783. Yn fuan ar ôl hyn, gwnaed Dinas Efrog Newydd yn brifddinas cenedlaethol gan Gynghrair y Conffederasiwn; cadarnhawyd Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau ac ym 1789, urddwyd [[George Washington]] yn Arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau yno; cyfarfu Cynghrair cyntaf yr Unol Daleithiau yno am y tro cyntaf ym 1789, a draffiwyd Mesur Hawliau a hyn oll yn y Neuadd Ffederal ar Wall St. Erbyn 1790, roedd Dinas Efrog Newydd wedi goddiweddyd [[Philadelphia]] fel dinas fwyaf yr Unol Daleithiau.
Yn ystod y [[19g]] gweddnewidwyd y ddinas gan fewnlifiad a datblygiad. Ehangwyd y grid strydoedd i gynnwys holl ardaloedd Manhattan gan Gynllun y Comisiynnydd ym 1811, a phan agorodd Camlas Erie, cysylltodd porthladd Môr Iwerddon gyda marchnadoedd amaethyddol eang mewndirol Gogledd America. Aeth gwleidyddiaeth lleol o dan ddylanwad Neuadd Tammany, peiriant gwleidyddol a gefnogwyd gan fewnfudwyr [[Iwerddon|Gwyddelig]]. Ymgyrchoedd hen aristocratiaid morol am sefydlu parc ganolog, "''Central Park''", a ddatblygodd i fod y parc tir-luniedig cyntaf mewn dinas Americanaidd ym 1857. Roedd poblogaeth o dduon-rhydd hefyd yn bodoli ym Manhattan, yn ogystal ag yn Brooklyn. Daliwyd [[caethwasiaeth|caethweision]] yn Efrog Newydd tan 1827, ond yn ystod y [[1830au]] daeth yn ganolbwynt yr ymgyrch i ddiweddu caethwasiaeth aml-hil yn y Gogledd.
[[Delwedd:Mulberry_Street_NYC_c1900_LOC_3g04637u_edit.jpg|bawd|dde|Stryd Mulberry, ar Ochr Ddwyreiniol Isaf Manhattan, tua 1900]]Arweiniodd ddicter at orfodaeth milwrol yn ystod [[Rhyfel Annibyniaeth America]] (
[[Delwedd:NewYorkCityManhattanRockefellerCenter.jpg|bawd|chwith|Dinas Efrog Newydd o'r [[Canolfan Rockefeller|Ganolfan Rockefeller]]]]Yn ystod y [[1920au]], roedd Dinas Efrog Newydd yn gyrchfan boblogaidd i Americanwyr-Affricanaidd yn ystod yr Ymfudo Mawr o [[De America|Dde America]]. Erbyn [[1916]], roedd Dinas Efrog Newydd yn gartref i'r boblogaeth fwyaf o Affricaniaid dinesig yng [[Gogledd America|Ngogledd America]]. Blodeuodd [[Dadeni Harlem]] yn ystod cyfnod y Gwaharddiad, ynghŷd â thŵf economaidd a welodd y ddinas yn cystadlu i adeiladu'r wybren-grafwyr uchaf. Erbyn dechrau'r 1920au, Dinas Efrog Newydd oedd yr ardal ddinesig fwyaf poblog yn y byd, gydag ardal fetropolitanaidd o dros 10 miliwn o drigolion erbyn dechrau'r [[1930au]]. Yn sgîl yr amodau byw caled a ddaeth ar ôl y [[Dirwasgiad Mawr]], etholwyd y diwygiwr [[Fiorello LaGuardia]] yn [[maer|faer]] y ddinas.
Llinell 53:
Lleolir Dinas Efrog Newydd yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau, yn ne-ddwyrain Talaith Efrog Newydd, oddeutu hanner ffordd rhwng [[Washington, D.C.]] a [[Boston]]. Saif y ddinas ger aber yr [[Afon Hudson]], sy'n bwydo harbwr cysgodol ac yna Mor Iwerddon, ac mae'r lleoliad hwn wedi cynorthwyo'r ddinas i dyfu fel tref masnachol. Adeiladwyd rhannau helaeth o Efrog Newydd ar dair ynys [[Manhattan]], [[Ynys Staten]] a [[Long Island]] a achosodd prinder tir a dwysedd poblogaeth uchel.
Llifa'r Afon Hudson drwy [[Dyffryn Hudson|Ddyffryn Hudson]] ac i mewn i Fae Efrog Newydd. Rhwng Dinas Efrog Newydd a Troy, Efrog Newydd, mae'r afon yn aber. Gwahana'r Hudson y ddinas o [[New Jersey]]. Mae Afon y Dwyrain yn llifo o Long Island Sound ac yn gwahanu'r Bronx a Manhattan
Mae tir y ddinas wedi newid yn sylweddol oherwydd ymyrraeth dynol, gyda rhannau helaeth o dir wedi'u had-ennill ar hyd y glannau ers cyfnod y trefidigaethau Iseldireg. Gwelwyd yr enghraifft amlycaf o ad-ennill tir ym Manhattan Isaf, gyda datblygiadau fel Dinas Battery Park yn ystod y [[1970au]] a'r [[1980au]]. Mae rhai o amrywiadau naturiol topograffeg wedi cael eu llyfnhau, yn enwedig ym Manhattan.
Llinell 62:
Mae gan Ddinas Efrog Newydd [[hinsawdd is-drofannol llaith]]<ref>[http://koeppen-geiger.vu-wien.ac.at/ World Map of the Köppen-Geiger climate classification] University of Veterinary Medicine Vienna. Adalwyd 2009-01-31</ref> ac ar gyfartaledd ceir yno 234 o ddiwrnodau o heulwen yn flynyddol.<ref>http://www.weatherbase.com</ref>
Yn gyffredinol, mae'r hafau yn boeth ac yn glos gyda thymheredd cyfartalog o
Tuedda'r gaeafau i fod yn oer, gyda'r lleoliadau arfordirol ychydig yn gynhesach, gyda thymheredd uchaf cyfartalog o
{{Hinsawdd Efrog Newydd}}
|