Eira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Manion ac ychwanegu'r Nodyn newydd (Anrhydeddau) using AWB
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 49:
==Cysylltiadau â phobl==
Mewn cyfweliad gyda William Owen o D[[dyffryn Ardudwy]] ar raglen [[Dei Tomos]] ym mis Tachwedd y llynedd, soniodd WO am ei fam Rhinogwen yn cael ei geni (ar yr un diwrnod â [[Kyffin Williams]]!) pan oedd eira ar y [[Rhinogydd]] gerllaw. Felly y cafodd ei henw Rhinogwen. Y dyddiad hwyr oedd 9ed Mai 1918. Oedd yna eira ar y mynyddoedd ym mis Mai y flwyddyn honno ynteu rhamant teuluol ydoedd? Cofnodion o Ben Llŷn yn unig sydd i’w cael am y cyfnod yn Nyddiadur Llên Natur hyd yn hyn - nid yr ardal orau i brofi eira mis Mai sr y Rhinogydd!
 
==Cant o eiriau am eira?==
===Ôd===
Meddai Bethan Wyn Jones<ref>Daily Post Rhag 15, 2011</ref>: ”Diolch yn fawr iawn i J. Heddwyn Jones, Dwygyfylchi am ei gasgliad o ddywediadau am y tywydd oer, ac yn arbennig am “cenllysg i eira – crasod i law”. Doeddwn innau chwaith wedi clywed y gair crasod erioed o’r blaen.”
 
Dyma erthygl ddaeth i law trwy Bethan <ref>Ail Natur (43, 13 Mawrth 2013)</ref>: Yn dilyn y cyfeiriad at odi a chrasod, bum yn siarad â Gareth Pritchard Hughes o Rosllannerchrugog gan fod odi yn air cyffredin yno am fwrw eira. Yn ôl Gareth roedd “Odi” yn arfer cael ei ddefnyddio ar lafar yn siroedd Fflint a Dinbych, ble siaredid yr hen Bowyseg ac mae’n hen air sy’n mynd yn ôl i’r 10fed Ganrif. Mae pennill fel hyn yn y Rhos:
:“Odi, odi blawd yn codi
:Dŵr ar y tân i olchi llestri”
 
Dydyn nhw ddim yn taflu peli eira yn y Rhos chwaith, maen nhw’n “mopio”. “Mopen” ydi pelen eira. Roedd Euros Bowen wedi dweud mai crasod oedd y gair am genllysg yn Nolgellau – cras ôd. Manod (mân ôd) wedyn ydi eira mân sy’n lluwchio, hynny ydi eira’n cael ei yrru gan y gwynt. Roedd gwedd merch yn cael ei ddisgrifio “fel mannod”. Yn ei Gywydd i Ferch mae Dafydd ab Edmwnd (1450 – 1497) oedd yn dod o Hanmer, ym Maelor Saesneg yn canu fel hyn:
:“Dy wyneb fel ôd unnos
:Dy wrid fel bagad o ros.”
Mae’r Ficer Pritchard wedyn yn disgrifio puredigaeth drwy waed Crist:
:“Crist a’i waed a ylch dy bechod
:Ac a’th wnaiff mor wyn â’r mannod.”<ref>Ail Natur (43, 13 Mawrth 2013)</ref>
 
Yn y Beibl mae cyfeiriad at ôd yn Diarhebion 26, :
:“Megis ôd yr haf, neu law y cynhaeaf, felly nid cymwys i’r ffôl anrhydedd”.<ref>Ail Natur (43, 13 Mawrth 2013)</ref>
 
Mae’n siwr fod llawer ohonom yn gyfarwydd â geiriau’r Gelynnen:
:“Pe bai hi yn law neu ôd, mi allwn fod yn llawen;
:Neu ryw dywydd a fai’n fwy, ‘does dim ddaw trwy y gelynnen”.<ref>Ail Natur (43, 13 Mawrth 2013)</ref>
 
Mae hen bennill sy’n canu fel hyn:
:“Caëed pawb ei ddrws yn chwipyn,
:Mae’r ôd yn barod ar ben Berwyn;
:Daw i lawr â’r niwl i’w ganlyn,
:Hulyn gwyn i hulio’n gwanwyn.”<ref>Ail Natur (43, 13 Mawrth 2013)</ref>
 
Fe ganodd Gwenallt:
:“Lle’r aeth eu gwychder a’u gwedd?
:Lle heno mae ôd llynedd?” Ac meddai William Llyn:
:“Trwm ar iâ yw tramwy’r ôd, Trymach yw torri amod.”
Rydw i’n arbennig o hoff o hon gan T. Eurig Davies:
:“Yr ôd, os hir yr oeda
:Ar ryw drum, hwyr y daw’r ha.”
:Ai fel hyn y bydd hi eleni?
 
== Gweler hefyd ==