Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Lleihawyd o 6 beit ,  7 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
Mewn cyfweliad gyda William Owen o D[[dyffryn Ardudwy]] ar raglen [[Dei Tomos]] ym mis Tachwedd y llynedd, soniodd WO am ei fam Rhinogwen yn cael ei geni (ar yr un diwrnod â [[Kyffin Williams]]!) pan oedd eira ar y [[Rhinogydd]] gerllaw. Felly y cafodd ei henw Rhinogwen. Y dyddiad hwyr oedd 9ed Mai 1918. Oedd yna eira ar y mynyddoedd ym mis Mai y flwyddyn honno ynteu rhamant teuluol ydoedd? Cofnodion o Ben Llŷn yn unig sydd i’w cael am y cyfnod yn Nyddiadur Llên Natur hyd yn hyn - nid yr ardal orau i brofi eira mis Mai sr y Rhinogydd!
 
I==Cant o eiriau am eira?==
===Ôd===
Meddai Bethan Wyn Jones<ref>Daily Post Rhag 15, 2011</ref>: ”Diolch yn fawr iawn i J. Heddwyn Jones, Dwygyfylchi am ei gasgliad o ddywediadau am y tywydd oer, ac yn arbennig am “cenllysg i eira – crasod i law”. Doeddwn innau chwaith wedi clywed y gair crasod erioed o’r blaen.” Tybed beth yn union a olygwyd gan “crasod”
 
Dyma erthygl ddaeth i law trwy BWJ<ref name=Ail NaturAilNatur>Ail Natur (43, 13 Mawrth 2013)</ref>: “Yn dilyn y cyfeiriad at odi a chrasod, bum yn siarad â Gareth Pritchard Hughes o Rosllannerchrugog gan fod odi yn air cyffredin yno am fwrw eira. Yn ôl Gareth roedd “Odi” yn arfer cael ei ddefnyddio ar lafar yn siroedd Fflint a Dinbych, ble siaredid yr hen Bowyseg ac mae’n hen air sy’n mynd yn ôl i’r 10fed Ganrif. Mae pennill fel hyn yn y Rhos:
:‘Odi, odi blawd yn codi
:Dŵr ar y tân i olchi llestri’”
Mae’r Ficer Pritchard wedyn yn disgrifio puredigaeth drwy waed Crist:
:“Crist a’i waed a ylch dy bechod
:Ac a’th wnaiff mor wyn â’r mannod.”<ref name=Ail NaturAilNatur/><ref>
 
Yn y Beibl mae cyfeiriad at ôd yn Diarhebion 26, :
6,085

golygiad