Cofiwch Dryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
adran newydd am difrodi a'r helyntion diweddaraf
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Arwyddair yw "'''Cofiwch Dryweryn'''" sy'n cyfeirio at foddi [[Capel Celyn]] ym 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion [[Lerpwl]]. Mae'r arwyddair yn annog y [[Cymry]] [[Cymraeg]] i gofio'r dinistriad o gymuned Gymraeg ac i ddiogelu'r iaith.
 
Mae'r ymddangosiad enwocaf o'r ymadrodd yn [[graffito]] ar fur ger yr [[A487]] yn [[Llanrhystud]], y tu allan i [[Aberystwyth]]. [[Meic Stephens]] oedd y cyntaf i baentio'r mur yn y 1960au, gyda'r slogan 'Cofiwch Tryweryn' heb dreiglad.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32032326|teitl=Cofiwch Tryweryn?|dyddiad=25 Mawrth 2015|dyddiadcyrchu=10 Chwefror 2017|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw}}</ref> Mae'r wal honno yn rhan o hen dŷ ffarm oedd yn sefyll yno ers y 19G.<ref name="golwg-2010-04-28">{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/archif/24166-graffiti-yn-difetha-wal-cofiwch-dryweryn|teitl=https://golwg360.cymru/archif/24166-graffiti-yn-difetha-wal-cofiwch-dryweryn|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=28 Ebrill 2010|dyddiad=13 Ebrill 2019}}</ref>
 
==Difrodi ac adfer==
Llinell 12:
 
[[Delwedd:Cofiwch Dryweryn ac Aberfan, Awst 2017.jpg|bawd|chwith|Yr arwydd yn Awst 2017]]
Yn Ebrill 2010 peintiwyd dros y geiriau gyda graffito arall. Roedd cynlluniau ar y pryd i atgywirio ac amddiffyn y wal ac roedd ymgyrchwyr yn ceisio codi tua £80,000 i warchod y wal.<ref>{{dyf newyddion|url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/mid/8652096.stm|teitl= 'National landmark' Cofiwch Dryweryn is defaced|cyhoeddwr=BBC News|dyddiad=29 Ebrill 2019}}</ref> Yn 2017, ychwanegwyd y geiriau 'Cofiwch Aberfan 1966' o dan y neges wreiddiol.

Ar ddechrau Chwefror 2019 paentiwyd dros y slogan gyda graffiti yn dweud "Elvis ♥". O fewn diwrnod, aeth criw o bobl ifanc ati i ail-baentio'r wal gyda'r slogan gwreiddiol. Roedd galw eto gan rai i ddiogelu'r murlun.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47111219|teitl=Dyn ifanc yn teimlo 'dyletswydd' i adfer cofeb Tryweryn|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=4 Chwefror 2019|dyddiadcyrchu=4 Chwefror 2019}}</ref> Yn Ebrill 2019 ychwanegwyd y llythrennau 'AGARI' ar waelod y mur ond fe baentiwyd dros y gair o fewn oriau.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543936-adfer-cofiwch-dryweryn|teitl=Adfer wal ‘Cofiwch Dryweryn’|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=12 Ebrill 2019|dyddiadcyrchu=13 Ebrill 2019}}</ref> Y diwrnod canlynol fe chwalwyd rhan o'r wal yn llwyr, yn fwriadol mae'n debyg.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543958-chwalu-rhan-cofiwch-dryweryn|teitl=Chwalu rhan o wal Cofiwch Dryweryn|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=13 Ebrill 2019}}</ref> Aeth rhai ati i ail-adeiladu'r wal yr un diwrnod ac roedd yr heddlu am gynnal ymchwiliad.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543987-rhaid-diogelu-cofiwch-dryweryn|teitl=Galw am warchod wal Tryweryn wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=13 Ebrill 2019}}</ref>
{{clirio}}