Cofiwch Dryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9:
Yn 1991, roedd [[Rhys ap Hywel]] a Daniel Simkins yn ddisgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Penweddig a phenderfynodd y ddau fynd ati i adnewyddu'r arwydd gan beintio'r wal yn wyn a'r geiriau mewn du, gan arwyddo ei gwaith gyda llythrennau cyntaf eu henwau. Peintiwyd y gair "Trywerin" mewn camgymeriad, ond sylweddolwyd fod hynny'n anghywir y diwrnod wedyn. Yn yr ysgol, cafodd Rhys ei gadw nôl gan ei athrawes Cymraeg, Nia Jones, am ei bod wedi sylwi ar y camsillafiad. Aeth yn ôl y diwrnod wedyn i'w gywiro, gan ychwanegu "Sori Miss!" wrth ei ymyl.<ref>[https://www.youtube.com/watch?v=13oNEycX6OI Cyfweliad Rhys ap Hywel ar ''fi di duw'', 2010; cyrchwyd 6 Chwefror 2019]</ref>
Yn 2003, perfformiwyd sioe "Ac ar derfyn y dydd ddaeth y dŵr" gan
[[Delwedd:Cofiwch Dryweryn ac Aberfan, Awst 2017.jpg|bawd|chwith|Yr arwydd yn Awst 2017]]
Yn Ebrill 2010 peintiwyd dros y geiriau gyda graffito arall. Roedd cynlluniau ar y pryd i atgywirio ac amddiffyn y wal.
Ar ddechrau Chwefror 2019 paentiwyd dros y slogan gyda graffiti yn dweud "Elvis ♥". O fewn diwrnod, aeth criw o bobl ifanc ati i ail-baentio'r wal gyda'r slogan gwreiddiol. Roedd galw eto gan rai i ddiogelu'r murlun.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47111219|teitl=Dyn ifanc yn teimlo 'dyletswydd' i adfer cofeb Tryweryn|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=4 Chwefror 2019|dyddiadcyrchu=4 Chwefror 2019}}</ref> Yn Ebrill 2019 ychwanegwyd y llythrennau 'AGARI' ar waelod y mur ond fe baentiwyd dros y gair o fewn oriau.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543936-adfer-cofiwch-dryweryn|teitl=Adfer wal ‘Cofiwch Dryweryn’|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=12 Ebrill 2019|dyddiadcyrchu=13 Ebrill 2019}}</ref> Y diwrnod canlynol fe chwalwyd rhan o'r wal yn llwyr, yn fwriadol mae'n debyg.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543958-chwalu-rhan-cofiwch-dryweryn|teitl=Chwalu rhan o wal Cofiwch Dryweryn|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=13 Ebrill 2019}}</ref> Aeth rhai ati i ail-adeiladu'r wal yr un diwrnod ac roedd yr heddlu am gynnal ymchwiliad.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/543987-rhaid-diogelu-cofiwch-dryweryn|teitl=Galw am warchod wal Tryweryn wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=13 Ebrill 2019}}</ref>
|