Dafydd Iwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 41:
 
==Gyrfa==
Rhwng [[1968]] a diwedd y [[1970]]au roedd yn un o arweinyddion carismatig mwyaf y frwydr iaith. Drwy gyfrwng ei ganeuon gwleidyddol, poblogaidd, fe ysbrydolodd gannoedd (ac efallai miloedd) o Gymry. Cafodd ei benodi'n Llywydd [[Plaid Cymru]] yn [[2004]]. Ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd [[Jill Evans]] ASE ei hethol yn ddiwrthwynebiad i olynu Dafydd Iwan fel Llywydd: bydd yn cymryd drosodd fel Llywydd ym Medi 2010.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8720000/newsid_8727100/8727165.stm "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru"] Newyddion [[BBC Cymru]], 08.06.2010.</ref>
 
Mae'n awdur nifer o lyfrau, a chyfansoddwr dros 250 o ganeuon. Mae hefyd yn gyfarwyddwr [[Cwmni Recordiau Sain]]; ysgrifennydd [[Cymdeithas Tai Gwynedd]]; cadeirydd [[Cwmni Cyhoeddi Gwynn]]; aelod o Ymddiriedolaeth [[Portmeirion]]; cadeirydd Pwyllgor y Ganolfan, Bontnewydd; aelod o Bwyllgor Canolfan Gymunedol a Chapel Caeathro ac yn bregethwr lleyg.
 
Rhwng 1968 a diwedd y 70au bu'n arweinydd brwd a charismatig [[Cymdeithas yr Iaith]]. Bu'n gynghorydd sir [[Gwynedd]] dros ward [[Bontnewydd (Arfon)|Bontnewydd]] yn ardal [[Arfon]] hyd [[1 Mai]] [[2008]].
 
== Albymau (mewn trefn gronolegol) ==