[[Image:Coligny-closeup.jpg|right|thumb|250px|Manylion canol Samonios ar Galendr Coligny.]]
Mae '''Samhain''' (ynganiad Cymraeg: ''Saw-în'') yn ŵyl Geltaidd a ddethlir ar 31 Hydref hyd attan 1 Tachwedd o fewn diwylliannau [[Y Celtiaid|Celtaidd]]. Mae'n [[Gŵyl gynhaeaf|ŵyl gynhaeaf]] gyda'i gwreiddiau hynafol wedi'u gosod mewn [[amldduwiaeth Geltaidd]].
== Golwg cyffredinol ==
Marciwyd Samhain diwedd o'r [[cynhaeaf]], y diwedd o'r "hanner golau" yo'r flwyddyn a dechrau o'r "hanner tywyll" yo'r flwyddyn. Dathlwyd yn draddodiadol dros sawl diwrnod, a chred llawer o ysgolheigion mai dechrau'r flwyddyn y Celtiaid roeddoedd hi.<ref name="Chadwick">Chadwick, Nora (1970) ''The Celts'' Llundain, Penguin. ISBN 0-14-021211-6 tud. 181: "Samhain (1 November) was the beginning of the Celtic year, at which time any barriers between man and the supernatural were lowered".</ref><ref name="Danaher">Danaher, Kevin (1972) ''The Year in Ireland: Irish Calendar Customs'' Dulyn, Mercier. ISBN 1-85635-093-2 tud.190-232</ref><ref>McNeill, F. Marian (1961, 1990) ''The Silver Bough'', Cyf. 3. William MacLellan, Glasgow ISBN 0-948474-04-1 tud.11</ref> Mae rhai elfennau o [[Gŵyl y Marw|Ŵyl y Marw]] ganddi., a Credoddchredodd y Celtiaid fod y llen rhwng y byd hwn a'r [[arallfyd]] yn denau yn ystod yr ŵyl hon. Roedd [[coelcerth]]i'n symbol mawr yn ystod y dathliadau; fyddai pobl a da byw redeg rhwng dwy goelcerth fel defod lanhau, a thaflir esgyrn o dda bwy sydd wedi marw i mewn i'r fflamau er mwyn cael gwared â lwc ddrwg.<ref name="O'Driscoll">O'Driscoll, Robert (ed.) (1981) ''The Celtic Consciousness'' Efrog Newydd, Braziller ISBN 0-8076-1136-0 tud.197-216: Ross, Anne "Material Culture, Myth and Folk Memory" (on modern survivals); tud.217-242: Danaher, Kevin "Irish Folk Tradition and the Celtic Calendar" (on specific customs and rituals)</ref>
Yng [[Gâl|Ngâl]], mae cyfeiriad at ''Samonios'' ar [[Calendr Coligny|Galendr Coligny]]. Parhaodd yr ŵyl i fod yn un bwysig yn [[Iwerddon]] yn y [[Canol Oesoedd]], gyda chyfarfod ar [[Bryn Tara|Fryn Tara]] a oedd yn parhau am dridiau.
|