Samhain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
 
== Golwg cyffredinol ==
Marciwyd Samhain diwedd o'r [[cynhaeaf]], y diwedd o'r "hanner golau" o'r flwyddyn a dechrau o'r "hanner tywyll" o'r flwyddyn. Dathlwyd yn draddodiadol dros sawl diwrnod, a chred llawer o ysgolheigion mai dechrau'r flwyddyn y Celtiaid oedd hi.<ref name="Chadwick">Chadwick, Nora (1970) ''The Celts'' Llundain, Penguin. ISBN 0-14-021211-6 tud. 181: "Samhain (1 November) was the beginning of the Celtic year, at which time any barriers between man and the supernatural were lowered".</ref><ref name="Danaher">Danaher, Kevin (1972) ''The Year in Ireland: Irish Calendar Customs'' Dulyn, Mercier. ISBN 1-85635-093-2 tud.190-232</ref><ref>McNeill, F. Marian (1961, 1990) ''The Silver Bough'', Cyf. 3. William MacLellan, Glasgow ISBN 0-948474-04-1 tud.11</ref> Mae rhai elfennau o [[Gŵyl y Marw|Ŵyl y Marw]] ganddi, a chredodd y Celtiaid fod y llen rhwng y byd hwn a'r [[arallfyd]] yn denau yn ystod yr ŵyl hon. Roedd [[coelcerth]]i'n symbol mawr yn ystod y dathliadau; fyddai pobl a da byw redeg rhwng dwy goelcerth fel defod lanhau, a thaflir esgyrn o dda bwy sydd wedi marw i mewn i'r fflamau er mwyn cael gwared â lwc ddrwg.<ref name="O'Driscoll">O'Driscoll, Robert (ed.) (1981) ''The Celtic Consciousness'' Efrog Newydd, Braziller ISBN 0-8076-1136-0 tud.197-216: Ross, Anne "Material Culture, Myth and Folk Memory" (on modern survivals); tud.217-242: Danaher, Kevin "Irish Folk Tradition and the Celtic Calendar" (on specific customs and rituals)</ref>
 
Roedd r arfer o wisgo gwisgoedd a masgiau Celtaidd yn gais i gopïo ysbrydion neu eu tawelu. Yn yr Alban, dynwaredwyd y meirw gan ddynion ifanc gydag wynebau mygydog neu wynebau tywyll, gan wisgo mewn gwyn.<ref name="Campbell">Campbell, John Gregorson (1900, 1902, 2005) ''The Gaelic Otherworld''. Edited by Ronald Black. Birlinn Ltd. ISBN 1-84158-207-7 pp.559-62</ref><ref name=arnoldb>{{Dyf gwe |url=http://www.uwm.edu/~barnold/lectures/holloween.html |teitl=Bettina Arnold&nbsp;– Halloween Lecture: Halloween Customs in the Celtic World |dyddiadcyrchu=2007-10-16 |olaf=Arnold |cyntaf=Bettina |dyddiad=2001-10-31 |cyhoeddwr=Center for Celtic Studies |gwaith=Halloween [[Inaugural]] Celebration |lleoliad=[[University of Wisconsin–Milwaukee]]}}</ref> Defnyddiwyd ''Samhnag'' - [[Meipen|maip]] wedi'u cafnu allan a cherfio ag wynebau i wneud llusernau - i wardio yn erbyn niweidiol ysbrydion.<ref name=arnoldb/>
 
Daeth yr ŵyl Geltaidd yn gysylltiedig â [[Dydd Gŵyl yr Holl Saint]], dathliad [[Cristnogaeth|Cristnogol]], sydd wedi dylanwadu'n fawr iawn ar arferion seciwlar sydd bellach yn gysylltiedig gyda [[Calan Gaeaf|Chalan Gaeaf]]. Dethlir Samhain gŵyl grefyddol gan rai Neo-baganiaid o hyd.<ref name="Danaher"/><ref name="Hutton">{{Dyf llyfr |olaf=Hutton |cyntaf=Ronald |lincawdur=Ronald Hutton |teitl=The Pagan Religions of the Ancient British Isles: Their Nature and Legacy |cyhoeddwr=Oxford, Blackwell |isbn=0-631-18946-7 |tud=327–341}}</ref>
 
Yng [[Gâl|Ngâl]], mae cyfeiriad at ''Samonios'' ar [[Calendr Coligny|Galendr Coligny]]. Parhaodd yr ŵyl i fod yn un bwysig yn [[Iwerddon]] yn y [[Canol Oesoedd]], gyda chyfarfod ar [[Bryn Tara|Fryn Tara]] a oedd yn parhau am dridiau.