Sinai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
B dolen
Llinell 2:
[[Gorynys]] [[Anialwch|anial]] yn [[Yr Aifft]] yw '''Sinai''', sy'n gorwedd rhwng [[Camlas Suez]] yn y gorllewin ac [[Israel]] a [[Llain Gaza]] yn y dwyrain yw. Yn y gogledd mae'n wynebu'r [[Môr Canoldir]] tra yn y de mae ganddi arfordir hir ar y [[Môr Coch]] sy'n terfynu yn [[Gwlff Suez]] yn y gorllewin a [[Gwlff Aqaba]] yn y dwyrain.
 
Ac eithrio ambell [[Gwerddon|werddon]] werdd mae'r tir yn garregog a diffrwyth gyda bryniau yn y de a gwastadeddau yn y gogledd. [[Jabal Katrina]] (2,627 medr) yw'r pwynt uchaf, ond yr enwocaf o fynyddoedd yr ardal yw [[Mynydd Sinai]] (2285 [[metr]], 7497 [[troedfedd]]) . Yn ôl [[Llyfr Exodus]] yn yr [[Hen Destament]], ar y mynydd hwnnw y cafodd [[Moses]] dabledi'r Deg Deddf o law [[Iehofa]]. Saif mynachlog hynafol, sef [[mynachlogMynachlog Sant Catrin]] hynafol, sy'n enwog am ei chasgliad o [[llawysgrif|lawysgrifau]] ger copa Mynydd Sinai. Yn ystod yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] roedd Sinai'n rhan o dalaith [[Arabia Petraea]] â'i phrifddinas ym [[Petra|Mhetra]] (de-orllewin [[Gwlad Iorddonen]] heddiw).
 
Meddianwyd Sinai gan Israel yn [[1956]] ac eto yn [[Rhyfel Chwech Diwrnod]] [[1967]] a [[Rhyfel Yom Kippur]] [[1973]]. Dan gytyndeb heddwch Yr Aifft ac Israel yn [[1979]] dychwelwyd rhan o Sinai i'r Aifft ac yn [[1992]] tynnodd Israel allan yn gyfangwbl. Ers hynny mae [[twristiaeth]] wedi tyfu'n gyflym ar arfordir Môr Coch Sinai ac yn denu miloedd o [[Ewrop]]eaidd i dorheulo a darganfod y bywyd tanforol mewn trefi gwyliau fel [[Sharm el-Sheikh]].