Vince Cable: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 85:
Astudiodd Cable economeg ym Mhrifysgolion [[Prifysgol Caergrawnt|Caergrawnt]] a [[Prifysgol Glasgow|Glasgow]], cyn gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth [[Cenia]] rhwng 1966 a 1968, ac i Ysgrifennydd Cyffredinol [[y Gymanwlad]] yn y 1970au a'r 1980au. O 1968 i 1974 roedd yn ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Glasgow. Gwasanaethodd fel Prif Economegydd i Shell o 1995 i 1997. Roedd Cable yn weithgar yn [[Y Blaid Lafur (DU)|y Blaid Lafur]] yn y 1970au, yn dod yn gynghorydd Llafur yn [[Glasgow]]. Yn 1982, gwrthgiliodd i'r blaid a ffurfiwyd o'r newydd, [[Y Democratiaid Cymdeithasol (DU)|Plaid y Democratiaid Cymdeithasol]], a aeth yn ei blaen i gyfuno â'r [[Blaid Ryddfrydol]] i ffurfio'r Democratiaid Rhyddfrydol.
 
Daeth Cable yn Llefarydd Trysorlys y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mehefin 2003 ac fe'i hetholwyd yn ddirprwy arweinydd ym Mawrth 2006, gan wasanaethu fel Arweinydd Dros Dro am ddau fis yn 2007 o ymddiswyddiad [[Menzies Campbell]] tan etholiad [[Nick Clegg]] ar 18 Rhagfyr. Ymddiswyddodd Cable o'r ddwy swydd hyn ym Mai 2010 ar ôl dod yn Ysgrifennydd Busnes ac yn Llywydd y Bwrdd Masnach yn llywodraeth glymblaid [[David Cameron|Cameron]] – Clegg.
 
Yn dilyn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017|Etholiad Cyffredinol 2017]] ac ymddiswyddiad [[Tim Farron]], fe safodd Cable yn etholiad arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2017 ac fe'i hetholwyd yn arweinydd y blaid yn ddiwrthwynebiad.
 
Mae Cable wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mai 2019.
 
==Cyfeiriadau==