Iŵl Cesar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Giulio-cesare-enhanced 1-800x1450.jpg|250px|bawd|Iŵl Cesar: cerflun Rhufeinig.]]
Roedd '''Iŵl Cesar''' ([[Lladin]]: '''Gaius Iulius Caesar'''; 12 neu [[13 Gorffennaf]] [[100 CC]]–[[15 Mawrth]] [[44 CC]]) yn arweinydd milwrol a [[gwleidydd]] ym mlynyddoedd olaf [[Gweriniaeth Rhufain]]. Bu ganddo ran fawr yn y digwyddiadau yn arwain at ddiwedd y weriniaeth a sefydlu'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], er na fu ef ei hun yn ymerawdwr.
 
Roedd Cesar yn fab i [[Gaius Julius Caesar yr Hynaf]] ac [[Aurelia Cotta]]. Er bod teulu'r Julii o dras uchel, yn wir yn haeru eu bod yn ddisgynyddion [[Aeneas]] o [[Caerdroea|Gaerdroea]] a thrwyddo ef yn ddibynyddion y dduwies [[Gwener (duwies)|Gwener]], nid oedd aelod o'r teulu wedi dal swydd [[Conswl Rhufeinig|conswl]] ers amser maith. Roedd modryb Cesar, Julia, yn wraig i'r cadfridog [[Gaius Marius]].