Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwenlyn Parry"

Ychwanegwyd 24 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
No edit summary
Ganwyd William Gwenlyn Parry ym mhentref [[Deiniolen]] (neu [[Llanbabo]]), [[Gwynedd]]. Roedd ei dad, William John Parry, yn chwarelwr yn y chwarel lechi cyfagos yn Dinorwig; roedd ei fam Katie Parry (née Griffiths) yn gweithio am sawl blwyddyn fel nyrs yn ysbyty Eryri yn Nghaernarfon. Roedd ganddo un chwaer, Margaret, oedd yn bum mlynedd yn iau.<ref name=":0" />
 
Cafodd ei addysg yn yyng [[Coleg Normal, Bangor|Ngholeg y Normal, Bangor]]. Ar ôl cyfnod yn [[Llundain]] lle daeth i adnabod [[Rhydderch Jones]] a [[Ryan Davies]] a chyfnod fel athro ym [[Bethesda|Methesda]], cafodd swydd fel sgiptiwr gyda [[BBC Cymru]]. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal [[Caerdydd]] ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent [[Pen-y-groes]], Gwynedd.
 
Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres ''[[Pobol y Cwm]]'' a rhaglenni eraill ar y teledu yn cynnwys ''[[Fo a Fe]]'' a'r ffilm ''[[Grand Slam]]''<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/gwenlyn_parry.shtml Gwenlyn Parry], BBC Cymru Bywyd; Adalwyd 5 Ionawr 2016</ref>. Fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys ''[[Saer Doliau]]'' (1966) ac ''[[Y Tŵr]]'' (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.