T. Marchant Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Brodor o [[Aberdâr]] ym [[Morgannwg]] oedd T. Marchant Williams. Hyfforddodd i fynd yn athro ysgol yn yyng [[Coleg Normal, Bangor|Ngholeg y Normal, Bangor]]. Yn ddiweddarach bu ymhlith y myfyrwyr cyntaf i fynychu [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Cafodd yrfa wrth y Bar yn nes ymlaen. Yn 1904 fe'i urddwyd yn farchog.
 
Fel canlyniad i ddarlith gan [[Hugh Owen (addysgwr)|Hugh Owen]] yng Nghaernarfon yn 1880, penderfynwyd sefydlu corff newydd - [[Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol]] - i lywio'r [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru|Eisteddfod]] a gofynwyd i T. Marchant Williams fod yn ysgrifennydd cyffredinol. Roedd yn aelod diwyd o [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]] hefyd.