Edwyn Cynrig Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Un o arloeswyr [[Y Wladfa]] ym [[Patagonia|Mhatagonia]] oedd '''Edwin Cynrig Roberts''', weithiau '''Edwyn Cynrig Roberts''' ([[1838]] - [[17 Medi]] [[1893]]).
 
Roedd Edwin Roberts yn enedigol o bentref [[Cilcain]] yn [[Sir Fflint]], mab John a Mary Kendrick, ond ymfudodd gyda'i deulu i Wisconsin yn [[1847]]. Tua [[1856]] dechreuodd Mudiad Gwladfaol yn yr [[Unol Daleithiau]], lle roedd rhai o'r Cymry yn gweld bod eu cydwladwyr yn colli eu hiaith a'i diwylliant ac yn troi'n Americanwyr. Daeth Roberts yn amlwg yn y mudiad yma, a phan fethwyd trefnu i garfan o Gymry o America deithio i Batagonia, bwriadai ef ymfudo yno ar ei ben ei hun.
 
Fe'i perswadiwyd i deithio i Gymru i chwilio am eraill oedd yn barod i ymfudo i Batagonia, a daeth i gysylltiad a [[Michael D. Jones]]. Teithiodd trwy Gymru yn siarad ar y pwnc, a daeth yn rhan o gymdeithas a ffurfiwyd yn [[Lerpwl]] yn [[1861]] i drefnu'r fenter. Ym mis Mai [[1865]] gadawodd tua 160 o Gymry eu gwlad gan hwylio o Lerpwl i Borth Madryn, (heddiw [[Puerto Madryn]]) ym Mhatagonia ar long y [[Mimosa (llong)|Mimosa]]. Cyrhaeddon nhw Borth Madryn ar [[28 Gorffennaf]] ac roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yno yn barod i'w cyfarfod.