Gerallt Lloyd Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Newid i lyfryddiaeth
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
[[Llwyd o'r Bryn]] a gyflwynodd y gynghanedd iddo, ei athro barddol cyntaf, a gallai Gerallt gyfansoddi englyn cywir yn ddeuddeg oed. Yna aeth at Ifan Rowlands y Gistfaen, [[Llandderfel]] i wella'i grefft.
 
Derbyniodd Gerallt ei addysg yn [[Ysgol Tŷ Tan Domen]]. Tra yn y chweched dosbarth dyrchafwyd y tad a symudodd y teulu i Gaernarfon, ond arhosodd Gerallt gyda'i fodryb yn y Sarnau i adolygu ar gyfer ei arholiadau 'lefel A', ond gwell ganddo astudio'r [[cynghanedd|gynghanedd]] a darllen [[barddoniaeth]] ac ni chafodd y graddau angenrheidiol i fynd i'r brifysgol ac felly aeth i'r [[Coleg Normal, Bangor|Goleg y Normal, Bangor]] lle derbyniodd Dystysgrif Athro yn 1966.<ref name="Gwefan yr Academi" />
 
Treuliodd gyfnod o bum mlynedd fel athro: Ysgol Gynradd, Ysgol Glyn Dŵr (yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd ym [[Pen-y-bont ar Ogwr|Mhen-y-bont ar Ogwr]] gan y cenedlaetholwr brwd [[Trefor Morgan]]) ac Ysgol Gymraeg y Betws. Sefydlodd [[Gwasg Gwynedd|Wasg Gwynedd]] ym 1972. Yn 1972 hefyd y priododd ag Alwena Jones o [[Deiniolen|Ddeiniolen]] gan fyw yn [[Llandwrog]], a chawsant dri o blant: Mirain, Bedwyr a Nest.