Waldo Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rob Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
chydig mwy am ei berthynas â Linda a mân ddiwygiadau
Mân namau gramadegol.
Llinell 8:
Roedd yn saith oed yn dysgu [[Cymraeg]] pan symudodd y teulu i [[Mynachlog-ddu|Fynachlog-ddu]] yng ngogledd [[Sir Benfro]], [[1911]] - [[1915]] lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn [[1915]] daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch [[T.J. Michael (Gweinidog)|D J Michael]] yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn [[1926]] mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru (Ysgol Botwnnog) a Lloegr . Bu'n diwtor yn ddiweddarach ar ddosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, [[Coleg y Brifysgol Aberystwyth]].
 
Priododd Linda Llewellyn yn 1941, ond bu hithau farw o'r [[diciâu]] yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith. Yn y gerdd 'Tri Bardd o Sais a Lloegr' mae'n cyfeirio datat y blynyddoedd gyda Linda fel 'fy mlynyddoedd mawr'. Yn ei gywydd coffa byr iddi dywed i Linda wneud i'w awen fod fel 'aderyn bach uwch drain byd.'
 
Dysgodd [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] yn rhugl, a threuliodd lawer o amser yn [[Iwerddon]] yng nghwmni ei gyfaill [[Pádraig Ó Fiannachta]] a'i chwaer; dysgodd Pádraig y Gymraeg i eraill ym Mhrifysgol Maynooth. Wedi i Waldo golli ei swydd, gwnaeth gais i fod yn brifathro yn Maynooth, ond ni chafodd y swydd gan nad oedd yn aelod o'r Eglwys Gatholig.
Llinell 37:
 
===Ochr ei fam===
Roedd Angharad yn berson dwys, afieithus, heb fawr o gariad at waith tŷ. Cymerai gryn ddiddordeb yn syniadau ei gŵr. Does dim rhyfedd iddi ymddiddori ym mhynciau'r dydd ac ym myd rhesymeg ac athroniaeth o edrych ar ei llinach. Garddwr oedd ei thad, prifarddwr ar ystadau enfawr Lloegr am lawer o'i oes, a symudodd ef a'i wraig Margaret Price droeon oherwydd ei waith. Aeth y chwechchwe plentynphlentyn, gan gynnwys Angharad, mam Waldo, i'r coleg. Er nad oedd crefydd ffurfiol yn bwysig iawn gan y teulu, roedd y safonau canlynol yn holl bwysig: gonestrwydd, geirwiredd, ffyddlondeb, caredigrwydd a symylrwydd.
 
Priododd John Jones â Margaret Price, mam Waldo yn 1875, flywyddyn cyn geni Angharad.