86,744
golygiad
B (robot yn ychwanegu: fj:Trabzon) |
(cat) |
||
[[Dinas]] hynafol ar arfordir y [[Môr Du]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] yw '''Trabzon''' (hen enw: '''Trebizond''').
Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn
Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan [[Gwlad Groeg|Roegwyr]] o [[Miletus|Filetus]] yn y [[6ed ganrif CC]]. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol ''Trapezos'' (y gair [[Groeg]] am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantaidd]]. O'r flwyddyn [[1204]] hyd [[1461]] Trebizond oedd prifddinas [[Ymerodraeth Trebizond]] a reolai ran sylweddol o [[Asia Leiaf]]. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r [[Pla Du]] gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn [[1347]], ar ei ffordd i [[Ewrop]]. Cipiwyd Trebizond gan [[Mehmet y Cwncwerwr]] yn [[1451]].
Sefydlwyd prifysgol yno yn [[1980]].
[[Categori:Dinasoedd Twrci]]
[[Categori:Trabzon]]
[[Categori:Yr Ymerodraeth Fysantaidd]]
|