Brwydr Bryn Glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Yr oedd '''brwydr Bryn Glas''' (SO 253682), (hefyd '''Brwydr Pilleth''' mewn cofnodion Saesneg) yn frwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth [[Owain Glyndŵr]] a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson dan Syr [[Edmund Mortimer]]. Cafodd ei ymladd ar [[22 Mehefin]] [[1402]], ger [[Llanandras]] (Saesneg: Presteigne) ar y ffin rhwng [[Swydd Henffordd]] a [[Powys]]).
 
==Y cefndir==
Llinell 7:
Ceisiai byddin 8000 milwr Mortimer denu byddin sylweddol lai Owain i ymladd. Ond roedd Owain yn ormod o lwynog. Defnyddiodd ei ysbion a'i gefnogwyr lleol i drefnu ei gynlluniau. Yn ôl pob tebyg roedd wedi llwyddo i ddenu rhagor o Gymry i'w fyddin wrth oedi felly yn ogystal. Y canlyniad fu fod Mortimer, fe ymddengys, wedi meddwl fod ganddo dasg hawdd o'i flaen ac wedi gweithredu'n anghall.
 
Roedd rhan o fyddin Glyndŵr, tua 3000 o wŷr efallai, wedi meddianu llethr allt uwchben y cwm y byddai'n rhaid i fyddin Mortimer deithio drwyddo. Yn ôl traddodiad roeddent dan gapteiniaeth [[Rhys Gethin]], un o swyddogion mwyaf talentog a phrofiadol Glyndŵr. Neshaodd byddin Mortimer mewn rhengoedd trefnus i fyny'r llethr. Pan ymosodasant cawsant eu criblo gan saethau saethwyr Glyndŵr â'u bŵau hir nerthol. Gan eu bod yn saethu i lawr ar filwyr Mortimer roedd yr ergydion cymaint mwy grymus. Syrthiodd nifer o'r Saeson cyn dod yn agos i rengoedd y Cymry a medru ymladd law wrth law. Dyna pan chwareodd Owain ei gerdyn trwmp: allan o'r coed ar ochr dde y Saeson, rhuthrodd hanner arall ei fyddin yn ddirybudd ar filwyr Mortimer. Torodd byddin Mortimer dan yr ergyd. Roedd yna Gymry lleol o swydd Henffordd yn ei rengoedd hefyd, yn erbyn eu hewyllys, a phan welsant sut oedd y trai yn troi aethant drosodd i Glyndŵr (mae rhai haneswyr yn meddwl fod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw) ac ymosod ar y milwyr Seisnig. Trechwyd byddin Mortimer yn llwyr a chollodd nifer o filwyr cyffredin ac efallai cannoedd o farchogion ar eu meirch trymion.
 
Yn ôl croniclwyr cyfoes yn Lloegr cafodd cyrff y meirw eu difetha'n anweddus gan y gwragedd a ddilynai byddin Glyndŵr (fel pob byddin arall tan yn ddiweddar), efallai er dial am y treisio a fu gan filwyr Harri y flwyddyn cyn hynny. Daliwyd Mortimer ei hun. Yn nes ymlaen byddai'n priodi [[Catrin ferch Owain Glyndŵr|Catrin]], ferch Owain, ac yn sefyll gyda'r arweinydd Cymreig yn erbyn brenin Lloegr.
 
==Llyfryddiaeth==
*D. Helen Allday, ''Insurrection in Wales'' (Lavenham, 1981)
*R.R. Davies, ''The Revolt of Owain Glyndŵr'' (Rhydychen, 1995)
 
==Dolen allanol==