Aradr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 11:
==Disgrifiadau==
 
*Troi Tir Glas
:...pan ddoi Mawrth i mewn byddai yn rhaid bwrw i droi tir glas.... dyma lle y byddai pob wagner gwerth ei halen yn rhoi ei orau yn ei grefft, gorau oll os medrai'r meistr fforddio i brynu un o erydr y clybiau i'r fferm.... Nid troi rywsut rywsut a wnâi y tro, byddai yn rhaid penderfynu ymhle i agor. Wedi gosod polion syth fel haul drwy dwll, cael twyswr er mwyn cadw'r ceffylau mewn llinell mor unionsyth ag yr oedd modd, a thorri, yr hyn a alwem yn gripiad, rhyw gŵys fach oddeutu dwy fodfedd o ddyfnder a honno yn berffaith union ar hyd y cae. Wedyn mesur dwy droedfedd ar hugain a thorri cŵys gyffelyb yn gyfochrog a dyna'r ddau gripiad bach wedi eu cwplhau [sic]. Y gŵys nesaf oedd yn bwysig, byddai yn ofynnol dyfnhau i ryw bedair modfedd a thorri cŵys fyddai yn gorwedd yn daclus ar y cwysi bach blaenorol ac yna ei gwynebu gyda chwys gyffelyb [sic.]. Erbyn hyn, dylai'r ddwy gŵys yr agoriad fod ar ei hongl a'u dwy grib yn wastad fel dau do tŷ. Y gamp fyddai cadw at yr un gwastadrwydd drwy gydol y gwaith, gan droi i fesur pump wrth saith, yr hyn fyddai saith modfedd o grib i grib a phum modfedd o ongl. Byddai yn ofynnol dewis y man cywir ar y copstol i gynorthwyo'r tröwr i fedru dal a rhoi pwysau ar yr ystyllen er mwyn troi yn galed i osgoi tyllau yn yr âr i'r hadyd fynd o'r golwg wrth hau.<ref>“Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” (traethawd am rai arferion amaethyddol a arosai yng nghof “Hen Ddwylo”, cystadleuydd yn un o Eisteddfodau cylch y Parc, Y Bala. Fe’i hysgrifennwyd yng nghanol yr 1960au gan. Tybir mai O.T Jones, Llwynmafon (Tu Du gynt) oedd yr awdur. Gyda chaniatad a diolch i’r teulu ac i Carys Dafydd</ref>
 
==Cyfeiriadau==