Astudiaeth hanes y [[celfyddyd]]au gweledol yw '''hanes celfyddydcelf'''. Mae'n cwmpasu [[hanesyddiaeth]] [[arlunio]], [[cerfluniaeth]], [[pensaernïaeth]], y [[celfyddydau addurnol]], [[darlunio]], [[argraffu]], [[ffotograffiaeth]], a [[dylunio mewnol]]. Disgyblaeth academaidd ydyw sydd wedi hen ennill ei blwyf ym mhrifysgolion Ewrop, ac yn un o'r [[dyniaethau]] a'r [[celfyddydau breiniol]].
Y [[dull ysgolheigaidd]] yw methodoleg draddodiadol hanes celfyddydcelf, sydd yn dibynnu felly ar brofiad, craffter, barn a meddylfryd beirniadol yr ysgolhaig. Disgwylir i hanesyddion celfyddydcelf feddu crap ar gyd-destun hanesyddol a diwylliannol yr arlunydd dan sylw, a dealltwriaeth eang o syniadau, themâu a mudiadau celfyddydol. Mae priodoli a dilysu celfyddydwaith yn nhermau ei arlunydd a chyfnod yn arfer hollbwysig i'r hanesydd celfyddydcelf.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/art/art-history |teitl=Art history |dyddiadcyrchiad=8 Ebrill 2018 }}</ref>