Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Dewi"

Lleihawyd o 7 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
No edit summary
 
 
==Hanes==
Mae olion dau gapel bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion hen fynachlog a sefyflwyd gan [[Defynog|Ddefynog Sant]] yn gynnar yn [[Oes y Seintiau]]. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu [[Dewi Sant]] a Sant [[Sant Padrig|Badrig]]. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle. Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Justinian]] tua'r flwyddyn [[500]].
 
Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinon yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.