Ynys Dewi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
→‎Hanes: ychwanegiad
Llinell 6:
 
==Hanes==
Mae olion dau gapel bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion hen fynachlog a sefyflwyd gan [[Defynog|Ddefynog Sant]] yn gynnar yn [[Oes y Seintiau]]. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu [[Dewi Sant]] a [[Sant Padrig]]. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle. Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Justinian]] tua'r flwyddyn [[500]].
 
Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Iestyn]] ([[Lladin]], ''Justinian'', neu ''Stian'') tua'r flwyddyn [[500]]. Meudwy o [[Llydaw|Lydaw]] oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherddodd dros y tonnau i'r tir mawr. Gofynodd i gael ei gladdu yno; mae olion [[Capel Iestyn]] i'w gweld yno lle heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar yr Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.
 
Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinon yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.