Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Wicipedia:Anaddas ar gyfer Wicipedia"

Lleihawyd o 8 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
[[m:Wiki is not paper|Nid gwyddoniadur papur mo Wicipedia]]. Nid oes cyfyngiad ymarferol i'r nifer o destunau a allai ymdrin â hwy, na chyfanswm y cynnwys, ar wahân i'r ffaith fod angen gallu gwirio'r wybodaeth a'r pwyntiau eraill a gyflwynir ar y dudalen hon. Fodd bynnag, dylid nodi fod gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn a ''ellir'' gwneud, a'r hyn a ''ddylid'' gwneud, a sonnir am hyn yn yr adran [[#Cynnwys|gynnwys]] isod. O ganlyniad, nid yw'r polisi hwn yn rhoi rhwydd hynt i gynnwys popeth: rhaid i erthyglau ddilyn y polisïau cynnwys perthnasol, yn enwedig i rheiny a sonnir amdanynt yn y [[Wicipedia:Pum Colofn|pum colofn]].
 
Er mwyn sicrhau fod Wicipedia yn hawdd i'w ddefnyddio, dylid sicrhau nad yw erthyglau'n mynd yn rhy hir. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer darllenwyr sy'n defnyddio cysylltiad ffôn-ddeialu neu borwr symudol, am fod hyn yn effeithio ar yr amser mae'n cymryd i lawrlwytho tudalen (gweler [[Wicipedia:Hyd erthyglau]]). Mae rhannu erthyglau hir gan adael crynodebau digonol yn helpu erthyglau i dyfu'n naturiol (gweler [[Wicipedia:Crynodeb arddull]]). Mae gwyddoniaduron papur yn aml yn trafod rhai testunau mewn ffordd fer, ond gallwn ni ddarparu mwy o wybodaeth, cysylltiadau i ddolenni allanol, a diweddaru'r wybodaeth yn gyflym. Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y mae Wicipedia'n wahanol i wyddoniaduron papur, gweler y [[Wicipedia:Canllaw arddullArddull]].
 
== Cynnwys ==
7,502

golygiad