Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Dewi"

Lleihawyd o 7 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
(→‎Hanes: ychwanegiad)
Mae olion dau gapel bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion hen fynachlog a sefyflwyd gan [[Defynog|Ddefynog Sant]] yn gynnar yn [[Oes y Seintiau]]. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu [[Dewi Sant]] a [[Sant Padrig]]. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle.
 
Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Iestyn]] ([[Lladin]], ''Justinian'', neu ''Stian'') tua'r flwyddyn [[500]]. Meudwy o [[Llydaw|Lydaw]] oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherddoddcherdded dros y tonnau i'r tir mawr. Gofynodd i gael ei gladdu yno; mae olion [[Capel Iestyn]] i'w gweld yno lle heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar yr Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.
 
Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinonbererinion yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.
 
Bu ffermio ar yr ynys, er gwaethaf ei natur greigiog, tan yn bur ddiweddar, ac roedd y gymuned fach yn allforio ŷd, menyn, defaid a gwlân i'r tir mawr hyd [[1964]]. Yn [[1968]] gwerthwyd yr ynys i'r RSPB.
Defnyddiwr anhysbys