Rheilffordd Hejaz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 34:
 
==Sefyllfa bresennol==
Mae dwy ran o linell Hejaz yn dal i weithredu heddiw yn Syria a'r Iorddonen, ac maent yn ffurfio rhan fwyaf o reilffyrdd Gwlad Iorddonen. Mae llinell yn cysylltu Damascus (prifddinas Syria) ag [[Amman]] (prifddinas Iorddonen), a'r mwyngloddiau ffosffad Ma'an eraill yng [[Gwlff Aqaba|Ngwlff Aqaba]]. Yn 2004, caewyd terfynell hanesyddol gorsaf Hijaz yn Damascus, ac mae'r llinell bellach yn dod i ben ar orsaf Qadam ym [[maestrefimaestref]]i Damascus.
 
Yn Sawdi Arabia, cedwir gweddillion y rheilffordd, trac, adeiladau a cherbydau fel atyniadau twristaidd yn Medina. Gall ymwelwyr weld y trenau a ddinistriwyd gan [[Lawrence o Arabia]]. Ceir golygfa am Lawrence a'r Arabiaid yn ymosod ar Rheilffordd yr Hejaz yn ffilm enwog, ''Lawrence of Arabia''.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=sxMmewpfoCw</ref>
 
Ym mis Awst 2005, dymchwelodd bwrdeistref Medina hen bont linell, er gwaethaf gwrthwynebiad gan drigolion a haneswyr.<ref>{{en}} [http://archive.arabnews.com/?page=1&section=0&article=69304&d=31&m=8&y=2005| Arab news 31/08/2005]</ref> O ganlyniad i'r protestiadau addawodd y Tywysog Sultan ibn Salman, y Gweinidog Twristiaeth, ailadeiladu'r bont ac adnewyddu'r llinell ar gyfer twristiaeth.<ref>{{en}} [http://archive.arabnews.com/?page=1&section=0&article=69562&d=5&m=9&y=2005| Arab news 05/09/2005]</ref>