Yr Ymerodraeth Brydeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: pnb:سلطنت برطانیہ
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
cywiriad
Llinell 1:
[[Delwedd:British Empire 1897.jpg|thumb|right|300px|Yr Ymerodraeth Brydeinig yn [[1897]]]]
 
'''Yr Ymerodraeth Brydeinig''' oedd yr [[ymerodraeth]] ehangaf a welwyd yn hanes y byd. Am ddwy ganrif roedd yn tra-arglwyddiaethu dros weddill y byd. Mae ei gwreiddiau yn gorwedd yng ngoresgyniad y gwledydd [[Celtiaid|Celtaidd]] gan [[Lloegr|Loegr]] a thwf grym morwrol y wlad honno o ddiwedd yr [[Oesoedd Canol]] ymlaen. Tramor sefydlai'r Saeson nifer o [[Trefedigaeth|drefedigaethau]] - rhai cymharol bychain i ddechrau - mewn cystadleuaeth â gwledydd [[Ewrop]]eaidd eraill yn "Oes y Darganfod" yn Ewrop, o'r [[15fed ganrif]] ymlaen. Roedd gan [[Ffrainc]], [[Portiwgal]], [[Yr Iseldiroedd]] a [[Sbaen]] eu tiriogaethau tramor hefyd, ond yn ystod y [[18fed ganrif]] tyfodd y [[Prydain Fawr|Brydain Fawr]] newydd i feddianu mwy na'r lleill i gyd, trwy rym arfau neu gytundebau economaidd.
 
Erbyn [[1921]] roedd yr Ymerodraeth yn rheoli poblogaeth o tua 458 miliwn o bobl, sef o gwmpas chwarter poblogaeth y byd ar yr adeg hynny. Roedd tua 36.6 million km² (14.2 million milltir sgwar) yn goch ar y map, o gwmpas chweched ran o arwynebedd y [[Daear|Ddaear]].