Dresden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fj:Dresden
manion
Llinell 5:
Ddinas hanesyddol yn nwyrain [[yr Almaen]] a phrifddinas talaith ffederal [[Sachsen]] yw '''Dresden''' ([[Sorbeg]]: Drježdźany; sy'n deillio o'r Hen Sorbeg ''Drezdany'' - [[cors|siglen]] neu orlifdir).
 
Mae wedi ei leoli yn nyffryn [[afon Elbe]]. Mae tystiolaeth archeolegol ar yr ardal ddinesig yn dangos anheddiad yn y [[cyfnod Neolithig]]. Ceir y cyfeiriad cyntaf mewn dogfennau ym [[1206]] at Dresden fel cartref brenhinol ac etholiadol. Mae'r ddinas yn cael ei adnabodhadnabod hefyd fel "Florence ar y Elbe", yn wreiddiol oherwydd ei chasgliadau celfyddydol, ond hefyd oherwydd ei bensaernïaethphensaernïaeth Baróc a Môr y Canoldir hardd ar hyd lan yr afon. Cafwyd llifogydd trwm yno ym mis Awst [[2002]][http://www.tu-dresden.de/fsmed/galerie/dresden/flood_2002.htm].
 
Yn ystod y [[18fed ganrif]] datblygodd diwydiant gwaith [[porslen]] pwysig yn y ddinas ac yn ei chyffiniau, a daeth yr enw '''Dresden''' yn gyfystyr â phorslen. Cafodd ei bomio'n drwm gan lu awyr [[Prydain]] yn [[yr Ail Ryfel Byd]]. Erbyn hyn, mae Dresden wrth wraidd '''clymdref Dresden''', rhanbarth a ystyrir yn un o'r rhai mwyaf economaidd ddeinamig yn yr Almaen. Ynghyd ag ardaloedd trefol [[Chemnitz]]-[[Zwickau]] a [[Leipzig]]-[[Halle]], mae'n rhan o driongl trefol enfawr talaith Sachsen.
 
== Hanes ==
Ym [[1933]] roedd tua 5,000 o [[Iddew]]on yn Dresden; yn y blynyddoedd a ddilynodd cawsontcawsant eu diarddel a'u halltudio i [[gwersyll crynhoi|wersylloedd crynhoi]]. Cafodd [[gwrth-Semitiaeth]] yn Dresden ei ddogfennu yn bennaf yn nyddiaduron [[Victor Klemperer]]. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dim ond 41 Iddewon oedd yn byw yn y ddinas. Rhwng 1939 a 1945 hefyd carcharwyd nifer mewn gwersylloedd, yn bennaf yn y gwersylloedd yn [[Auschwitz]] a [[Flossenburg]], barics yn y ddinas. Gorfu iddynt weithio yn y diwydiant arfau. Cafodd y banciau preifat oedd yn bercheneiddo i deuluoedd Iddewig eu cysylltu o dan orfodaeth â [[Dresdner Bank]].
Roedd Dresden am ganrifoedd yn ganolfan filwrol. Yn y gogledd, roedd Dinas Albert yn ganolfan milwrol sylweddol, ac roedd yn ehangu o dan y [[Natsïaid]].
 
 
[[Delwedd:Fotothek df ps 0000010 Blick vom Rathausturm.jpg|bawd| Dresden ar ôl bomio, [[14 Chwefror]] [[1945]]]]
Yn yr [[Ail Ryfel Byd]] daeth y cyrchoedd cyntaf i'r ardal ddinesig o'r awyr mor gynnar â mis Awst 1944. Daeth y prif gyrchoedd awyr ar Dresden mewn pedwar ton rhwng [[13 Chwefror|13]] a [[15 Chwefror]] [[1945]]. Cafodd rhannau helaeth o ardal y ddinas eu difrodi'n wael gan [[awyren fomio|awyrennau bomio]] Prydeinig ac Americanaidd. Mae union nifer y dioddefwyr yn ansicr, gydag amcangyfrifon o'r nifer fu farw yn amrywio rhwng 350,000 a 25,000. Erbyn [[6 Mai]] 1945, roedd y ddinas wedi'i chylchynnu gan [[y Fyddin Goch]], ac ar [[8 Mai]] ildiwyd i y ddinas iddi.
 
{{eginyn yr Almaen}}