Don Giovanni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 51:
Does gan Don Giovanni dim teimlad o edifeirwch am ladd Don Pedro. Wrth iddo ffoi mae'n trio ei lwc efo dynes arall mae o'n mynd heibio ar y stryd. Donna Elvira un o'i gyn cariadon yw'r ddynes ar y stryd. Mae hi'n flin efo'i ymddygiad yn ceisio ei hudo eto wedi iddo ei rhoi hi heibio am fenyw arall. Mae Don Giovanni yn ei gwthio hi at Leporello ac yn ffoi eto. Mae Leporello yn ddweud wrth Elvira i beidio â gwastraffu teimladau ar Giovanni gan ei fod yn anffyddlon i bawb. Yn y gân ''Madamina, il catalogo è questo'' ("Madam dyma'r catalog") mae Leoprello yn ddweud bod ei feistr wedi caru 640 merch yn yr [[Eidal]], 231 yn yr [[Yr Almaen|Almaen]], 100 yn [[Ffrainc]], 91 yn [[Twrci|Nhwrci]] a 1,003 yn Sbaen.<ref>[https://wno.org.uk/cy/archive/2017-2018/don-giovanni-mozart Opera Genedlaethol Cymru Don Giovanni Mozart] adalwyd 29 Medi 2018</ref>
 
Y targed nesaf yw priodferch, Zerlina, gwerin wraiggwerinwraig sydd ar fin [[Priodas|priodi]]'r [[ffermwr]], Masetto. Mae Don Giovanni yn hidio dim am geisio caru efo Zerlina ar ei ddiwrnod priodas. Mae Donna Anna a Don Ottavio, ei chariad, yn cyrraedd. Mae Don Ottavio a Donna Anna yn chwilio am lofrudd Don Pedro. Heb sylwi ei bod hi'n siarad gyda'r [[Llofruddiaeth|llofrudd]], mae hi'n gofyn am gymorth Don Giovanni i'w canfod. Mae, Donna Elvira yn cyrraedd ac yn ddweud wrth Donna Anna a Don Ottavio bod Giovanni yn ferchetwr ffiaidd. Mae Don Giovanni yn ceisio perswadio Don Ottavio a Donna Anna bod Donna Elvira yn wallgof ''Non ti fidar, o misera'' - ("paid â choilio'r un truenus").
 
Wrth i Don Giovanni ymadael, mae Donna Anna yn ei adnabod fel yr un a ymosododd arni hi a'i thad.