Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gruffudd ab yr Ynad Coch"

Ychwanegwyd 190 beit ,  9 o flynyddoedd yn ôl
gair gwell yn lle 'catholig' (nid y grefydd a olygir) + adfer y testun gwreiddiol (e.e. r'bydiaw = rybydiaw)
B (→‎Ei waith barddonol: galargan anhygoel!)
(gair gwell yn lle 'catholig' (nid y grefydd a olygir) + adfer y testun gwreiddiol (e.e. r'bydiaw = rybydiaw))
Mae'r seithfed awdl yn [[marwnad|farwnad]] i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw [[Afon Irfon]] ar [[11 Rhagfyr]], [[1282]]). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng [[Castell y Bere|Nghastell y Bere]], [[Meirionnydd]], y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.
 
Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a Chatholigchynhwysfawr ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:
 
:'Oerfelawg calon dan fron o fraw,
:Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw;:
:Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
:Poni welwch chwi'r deri yn ymdaraw?
:Poni welwch chwi'r môr yn merwinawmerwinaw—'r tir?
:Poni welwch chwi'r Gwir yn ymgyweiriawymgyweiraw?
:Poni welwch chwi'r haul yn hwylawhwylaw—'r awyr?
:Poni welwch chwi'r sŷr wedi'r r'syrthiaw?
:Pani chredwch chwi i Dduw, ddynaddionddyniaddon ynfyd?
:Pani welwch chwi'r byd wedi r'bydiaw?<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). Tud. 424, llau 61-70.</ref>
:Pani welwch chwi'r byd wedi'r bydiaw?'
 
Yn ddieithriad, mae beirniaid llenyddol yn cydnabod y gerdd hon fel un o orchestweithiau pennaf y beirdd Cymraeg ac un o gerddi mawr y byd. Er bod strwythur a mydr y gerdd yn gymhleth, mae'r iaith yn syml a'r mynegiant yn blaen ac mae'n un o'r cerddi hawsaf i'w deall o blith holl gerddi'r Gogynfeirdd gan y darllenydd cyffredin heddiw.
 
Ceir testun hwylus o destun 'Marwnad Llywelyn ap Gruffudd' mewn orgraff ddiweddar yn y gyfrol ''[[Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg]]''.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
{{Beirdd y Tywysogion}}