Leniniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro (!)
Tagiau: Golygiad cod 2017
Marcsiaeth–Leniniaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
Ffurf ar [[Marcsiaeth|Farcsiaeth]] a ddatblygwyd gan [[Vladimir Lenin]] yw '''Leniniaeth''' sydd yn pwysleisio swyddogaeth y blaid chwyldroadol a llywodraeth gan y [[proletariat]] ar y llwybr i [[sosialaeth]].<ref>{{dyf GPC |gair=Leniniaeth |dyddiadcyrchiad=3 Medi 2018 }}</ref> Yn ôl damcaniaeth Lenin, byddai aelodau'r blaid yn chwyldroadwyr proffesiynol, a chodi ymwybyddiaeth dosbarth, addysgu athrawiaeth Farcsaidd, a threfnu'r [[dosbarth gweithiol]] yw gorchwyl y blaid. Credai Lenin bod angen plaid ganolog, effeithiol i ennill grym gwleidyddol ar ben y grym economaidd a weithredir drwy [[streic]]iau. Wedi'r chwyldro, byddai'r blaid yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol drwy sefydlu "unbennaeth y proletariat" ac yn llywodraethu'r wlad trwy'r cyfnod o drawsnewid i sosialaeth.
 
Ceisiodd Lenin a'i [[Bolsieficiaid|Folsieficiaid]] rhoi'r athrawiaeth ar waith yn sgil [[Chwyldro Hydref 1917]] yn [[Rwsia]], a sefydlu'r [[Undeb Sofietaidd]] yn 1922 wedi buddugoliaeth [[y Fyddin Goch]] yn [[Rhyfel Cartref Rwsia]]. Mabwysiadwyd yr egwyddorion hyn gan [[plaid gomiwnyddol|bleidiau comiwnyddol]] yn sgil sefydlu'r [[Comintern]] gan Lenin yn 1919. Dylanwadodd Leniniaeth ar syniadaeth [[Antonio Gramsci]], [[Joseff Stalin]], [[Leon Trotsky]], a [[Mao Zedong]]. Daeth Leniniaeth i ddiffinio'r ffurfiau uniongred, canolog ar [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]], a [[Marcsiaeth–Leniniaeth]], ideoleg wladwriaethol yr Undeb Sofietaidd.
 
== Cyfeiriadau ==