Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rheilffordd Llangollen"

Ychwanegwyd 10 beit ,  2 flynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
(Rheilffordd Swydd Gaerloyw Swydd Warwig)
 
==Hanes==
Agorwyd y Rheilffordd Dyffryn Llangollen (Saesneg: ''Vale of Llangollen Railway'') i drenau nwyddau ar 1 Rhagfyr 1861, ac i deithwyr ar 2 Mehefin 1862. Gadawodd y lein rhwng [[Caer]] ac [[Amwythig]] hanner milltir i'r de o [[Riwabon]]. Roedd hyd y lein pum milltir a chwarter, ac roedd gorsafoedd yn [[Acrefair]] ac yn [[Trefor|Nhrefor]].
 
Ymgorfforwyd y Rheilffordd Llangollen a Chorwen ar 6 Awst 1860. Creuwyd Twnnel Berwyn, twnnel 689 llath o hyd trwy'r [[Y Berwyn|Berwyn]]. Agorwyd y lein ar 8 Mai 1865. Roedd trenau wedi teithio rhwng Corwen a [[Dinbych]] ers 1864. Agorwyd y rheilffyrdd rhwng Corwen ac [[Y Bala]] ac ymlaen i [[Dolgellau|Ddolgellau]] ym 1868.
==Atgyfodi==
Cyfarfu grŵp o selogion, y Gymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Y Fflint a Glannau Dyfrdwy, ym 1972 i ystyried gwarchod lein yng Ngogledd Cymru. Ystyriwyd y lein rhwng [[Prestatyn]] a [[Dyserth]] yn gyntaf,<ref>{{Citation|url=http://www.dyserth.com/html/dyserth-prestatyn_railway.html|title=Dyserth—Prestatyn Railway|accessdate=2008-08-27}}</ref> ond ym 1974, trowyd eu sylw at Langollen. Ar y pryd roedd yn gynlluniau i adeiladu fflatiau neu gwesty ar safle [[Gorsaf Reilffordd Llangollen|gorsaf reilffordd Llangollen]] ac roedd hefyd yn gynllun i adeiladu ffordd osgoi ar draws drwyth y lein i'r gorllewin o Langollen. Ond cytunodd [[Cyngor Sir Clwyd]] i roi prydles i'r Gymdeithas ar gyfer tair milltir o'r lein am bum mlynedd ar amod bod milltir o gledrau wedi cael ei gosod erbyn diwedd y pum mlynedd. Rhoddwyd dwy injan gan gwmni [[Courtauld]], ac hefyd 30 troedfedd o gledrau. Erbyn 13 Medi 1975, roedd yna 60 troedfedd o gledrau, pan gynhaliwyd y diwrnod agored cyntaf, yn defnyddio injan diesel, [[Eliseg]], sydd wedi cyrraedd o ffatri [[Brychdyn]] [[Hawker Siddeley]] – [[Ffatri Airbus UK, Brychdyn]] erbyn heddiw.
 
Ym 1976, daeth milltir a hanner o gledrau eraill o burfa olew [[Shell]] yn [[Stanlow]]. Sefydlwyd Cymdeithas Rheilffordd Llangollen ym 1977.
 
Gan fod y cwmni wedi cyflawni amodau y brydles gyntaf erbyn 1980, wrth cwblhau milltir o gledrau, rhoir prydles am dair milltir arall gan [[Cyngor Sir Clwyd]] ac un arall, hyd at Gorwen, gan [[Cyngor Bwrdeistref Glyndŵr]]. Dechreuodd gwasanaeth ar gyfer teithwyr ar 26 Gorffennaf 1981 ar filltir gyntaf y lein.
 
Cyrhaeddwyd Berwyn ym 1985, a dechreuodd gwasanaeth i deithwyr ym Mawrth 1986.
Dechreuwyd gwaith ar estyniad arall, hyd at [[Arhosfa Glandyfrdwy]] ym 1989, gan gynnwys ailosod cledrau trwy Twnnel Berwyn, 689 llath o hyd. Cyrhaedodd y drên gyntaf yr Arhosfa ar 16 Mehefin 1990.
 
Dechreuwyd cynllunio estyniad i [[Glyndyfrdwy|Lyndyfrdwy]] ym 1990. Roedd yr orsaf wedi cael ei dymchwel, a wedi dod yn maes chwarae ar gyfer plant. Adeiladwyd dau blatfform newydd, a daeth hen adeilad o [[Northwich]] i fod yn adeilad newydd i'r orsaf, oherwydd roedd yr un cynt wedi cael ei werthu. Daeth y bont rhwng y platfformau o[[Y Trallwng|'r Trallwng]]. Dechreuodd gwaith i osod y cledrau ym Mawrth 1991. Cyrhaeddodd y trên gyntaf ar 17 Ebrill 1992.
 
Dechreuwyd gwaith ar estyniad i [[Carrog|Garrog]]) yn Ngorffennaf 1994, ac agorwyd y lein hyd at Garrog ar 2 Mai 1996.
Cyrhaeddodd y lein [[Gorsaf reilffordd Corwen (Dwyrain)|Gorwen]] ar 22 Hydref 2014<ref>[http://www.rail.co.uk/rail-news/2015/st-davids-day-celebration-for-llangollen/ Gwefan rail.co.uk]</ref>.
[[Delwedd:Foxcote manor 01.jpg|250px|bawd|Foxcote Manor yn gadael Llangollen]]
132

golygiad