Gruffudd ab yr Ynad Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 5:
 
==Ei waith barddonol==
Erys ar glawr saith [[awdl]] ac un [[englyn]] proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae'r mwyafrif o'i waith ar gael yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], tra bo'r farwnad i [[LywelynLlywelyn ap Gruffudd|LlywelynLywelyn ap Gruffudd]] ar glawr yn [[Llyfr Coch Hergest]]; colofn 1417. Canu crefyddol yn null arferol y [[Gogynfeirdd]] yw chwech o'r awdlau.
 
Mae'r seithfed awdl yn [[marwnad|farwnad]] i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw [[Afon Irfon]] ar [[11 Rhagfyr]], [[1282]]). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng [[Castell y Bere|Nghastell y Bere]], [[Meirionnydd]], y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.