Lleng Arabaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 9:
Yn dilyn goruchfygu [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] yn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] dyfarnwyd, ar sail [[Cynhadledd San Remo]] ac yna [[Cytundeb Sèvres]] y byddai Prydain yn cael meddiant ar diriogaeth a enwyd yn Palesteina a Trawsiorddonen. Rhoddwyd Mandad i Brydain gan [[Cynghrair y Cenhedloedd|Gynghrair y Cenhedloedd]] i reoli'r tiriogaeth hyn nes eu bod yn "barod" i gael annibyniaeth. Gwelwyr hyn yn am yn [[Palesteina (Mandad)|Mandad Palesteina]] a Trawsiorddonen - hynny yw, y tir i'r dwyrain i'r [[Afon Iorddonen|afon Iorddonen]].
 
Sefydlwyd y Lleng Arabaidd (Arab Legion) yn 1921 gan y Capten Frederick Gerard Peake fel llu milwrol a alwyd i sicrhau rheolaeth Brydeinig dros llwythau Trawsiorddonen.<ref>Pollack, Kenneth, ''Arabs at War'', [[Council on Foreign Relations]]/University of Nebraska Press, 2002, p.267</ref> Roedd y llu yno i cadw rheolaeth ar y llwythi ac i gadw'r ffordd hanfodol rhwng [[Jeriwsalem]] a phrifddinas newydd Trawsiorddonen, [[Amman]] yn glir. Yn wreiddiol, dim ond 150 o ddynion oedd y Lleng, llawer ohonynt yn patrolio'r strydoedd wedi eu tynnu o gymuned disapora Chechen oedd yn byw yn [[Gwlad Iorddonen]] yn dilyn eu herlid a ffoi rhag [[Ymerodraeth Rwsia]] yn yr 19g.<ref>{{cite web|author=Pike, John |url= http://www.globalsecurity.org/military/library/news/2000/01/chechen98/261.htm |title=The Chechen Chronicles '98 |publisher=Globalsecurity.org |date= |accessdate=2014-05-13}}</ref> Lleolwyd y Lleng yn nhref [[Zarqa]] o le yr hannodd 80% o'i milwyr.

O 1939 i 1956, daeth [[John Bagot Glubb]], a adwaenid yn well fel ''Glubb Pasha'' (ei lys-enw rhyfel Arabaidd oedd "Abū Hunayk" sef 'gên gam'), yn gomander y Lleng a drawsnewidiodd yn un o fyddinoedd gorau'r [[Dwyrain Canol]].
 
Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], cymerodd y Lleng ran yn y rhyfel a gynhaliodd Prydain Fawr yn erbyn lluoedd yr Echel a'u cynghreiriaid yn theatr ryfel y Dwyrain Canol. Bu'r Lleng yn brwydro yn ymgyrch filwrol Syria-Libanus a rhyfel Eingl-Irac yn 1941: dau buddugoliaethau perthynol pendant.