Tosca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 15:
}}
 
Mae '''''Tosca''''' yn [[opera]] mewn tair act gan [[Giacomo Puccini]]<ref>[https://wno.org.uk/cy/archive/2017-2018/tosca-puccini Opera Cenedlaethol Cymru -Tosca] adalwyd 27 Hydref 2018</ref> i [[libreto]] Eidalaidd gan Luigi Illica a Giuseppe Giacosa. Mae'r gwaith sy'n seiliedig ar ddrama Victorian Sardou, 1887, La Tosca, yn ddarn ddramatig. Mae'n cael ei osod yn [[Rhufain]] ym mis Mehefin 1800, pan oedd rheolaeth Deyrnas [[Napoli]] o Rufain dan fygythiad gan ymosodiad [[Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc|Napoleon]] ar yr [[Eidal]].<ref>[http://www.operaprovidence.org/Tosca/history.htm The History of Tosca - Opera Providence] adalwyd 27 Hydref 2018</ref> Mae'n cynnwys darluniau o artaith, llofruddiaeth a hunanladdiad, <ref>[https://www.theopera101.com/operas/tosca/ About Tosca] adalwyd 27 Hydref 2018</ref> yn ogystal â rhai o ariâu telynegol enwocaf Puccini.
 
==Perfformiad cyntaf==
Perfformiwyd ''Tosca'' am y tro cyntaf yn Teatro Costanzi, Rhufain ar [[14 Ionawr]] [[1900]] o dan arweiniad Leopoldo Mugnone.<ref name="stanford">{{cite web | title=Tosca: Performance history | url=http://opera.stanford.edu/Puccini/Tosca/history.html | publisher=Stanford University | accessdate=27 Hydref 2018}}</ref> Chwaraewyd rhan Floria Tosca gan [[Hariclea Darclée]], rhan Mario Cavaradossi gan Emilio De Marchi, rhan Scarpia gan Eugenio Giraldoni a rhan Cesare Angelotti, gan Ruggero Galli yn y perfformiad cyntaf. Cafodd ''Tosca'' ei berfformio am y tro cyntaf ar adeg o aflonyddwch yn Rhufain, a chafodd ei berfformiad cyntaf ei ohirio am ddiwrnod oherwydd ofn bwydo'r aflonyddwch .<ref>[https://www.historytoday.com/richard-cavendish/first-performance-puccinis-tosca History Today: First Performance of Puccini's Tosca] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>. Er gwaethaf adolygiadau anfoddhaol gan y beirniaid, roedd yr opera yn llwyddiant mawr ar unwaith gyda'r cyhoedd.
 
==Cymeriadau==
Llinell 61:
Roedd yr Eidal wedi ei rannu, ers peth amser, i mewn i nifer o wladwriaethau bychain. Roedd y Pab yn llywodraethu'r taleithiau Pabyddol yng nghanolbarth yr Eidal gan gynnwys Rhufain. Ym 1796 ymosododd byddin Ffrengig o dan arweiniad Napoleon ar yr Eidal. Gorchfygodd y Ffrancod Rhufain ar 11 Chwefror 1798 gan ffurfio gweriniaeth yno. Roedd y weriniaeth newydd yn cael ei lywodraethu gan saith conswl. Yn yr opera mae'r cymeriad Angelloti yn un o'r consyliaid. Ym mis Medi 1799 mae byddin Ffrainc, a fu'n amddiffyn y weriniaeth yn ymadael a Rhufain. Wrth i'r Ffrancod ymadael mae lluoedd Deyrnas Napoli yn meddiannu’r ddinas.
 
Ym Mai 1800 dychwelodd Napoleon a'i lluoedd i'r Eidal. Ar 14 Mehefin bu frwydr rhwng lluoedd Ffrainc a lluoedd Awstria, brwydr Marengo .<ref>[https://www.britannica.com/event/Battle-of-Marengo Encyclopædia Britannica, inc. ''Battle of Marengo''] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>. Roedd yr Awstriaid yn gynghreiriaid i Ddinas Napoli. Erbyn canol bore roedd yr Awstriaid yn rheoli maes y gad, ac roedd yn ymddangos eu bod yn fuddugoliaethus. Danfonodd Michael von Melas cadlywydd yr Awstriaid negeswyr i Rufain gyda newyddion am y fuddugoliaeth. Yn y prynhawn cyrhaeddodd lluoedd Ffrengig newydd a threchwyd yr Awstriaid, danfonwyd negeswyr eraill i Rufain i ddiweddaru'r newyddion. Gadawodd lluoedd Napoli Rhufain, a threuliodd y ddinas y pedair blynedd ar ddeg nesaf o dan oruchwyliaeth Ffrainc. Mae'r opera Tosca yn adrodd hanes digwyddiadau yn Rhufain rhwng derbyn y newyddion cychwynnol bod Napoleon wedi colli a derbyn y newyddion diweddarach ei fod yn fuddugol.
==Plot==
===Act un===
Golygfa: Eglwys Sant Andrea della Valle. Hanner dydd.<ref>[https://www.thoughtco.com/tosca-synopsis-724318 Thought Co Tosca Synopsis: The Story of Puccini's Famous Opera] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
Mae Angelotti, carcharor gwleidyddol ar ffo, yn ceisio lloches tu mewn i eglwys Sant Andrea della Valle. Wrth iddo ddod o hyd i le i guddio, mae Clochydd ac yna'r arlunydd, Mario Cavaradossi. Mae Cavardossi yn gweithio ar lun o Fair Magdalen, wedi'i ysbrydoli gan chwaer Angelotti, Marchesa Attavanti. <ref>[https://www.metopera.org/discover/synopses/tosca/ Opera'r Metropoi=litan Synopsis o Tosca] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
Wedi i'r clochydd ymadael, mae Angelotti yn dod allan o'i guddfan. Mae Cavaradossi, yn cydnabod ef ac yn addo ei helpu, ond yn dweud wrtho am guddio pan fydd ei gariad, y canwr opera Floria Tosca, yn cyrraedd. Mae hi'n gandryll bod peintiad Cavaradossi o'r Madona wedi ei selio ar fenyw arall. Unwaith y bydd Tosca wedi mynd, mae Angelotti yn ail-ymddangos. Clywir canon yn ergydio fel arwydd bod yr heddlu wedi darganfod bod Angelotti wedi dianc o'r carchar, ac mae ef a Cavaradossi yn ffoi i dŷ'r arlunydd. <ref>[https://www.eno.org/operas/tosca/ Opera Cenedlaethol Lloegr: Tosca] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
 
Mae'r clochydd yn dychwelyd, gyda chlerigwyr a chôr o fechgyn allor i ddathlu'r newyddion bod Napoleon wedi ei drechu ym Mrwydr Marengo. Mae'r cyffro cyffredinol yn cael ei dorri'n fyr gan fynedfa Scarpia, Prif Swyddog yr Heddlu, ar lwybr Angelotti. Mae Tosca yn cyrraedd yn chwilio am Cavardossi, mae Scarpia yn chwarae ar ei eiddigedd. Gyda'i eiddigedd wedi tanio, mae Tosca yn gadael yn gynddeiriog ac mae Scarpia yn gorchymyn ei ddynion i'w dilyn yn y gobaith y bydd hi'n ei arwain i'r ffoadur. Mae Te Deum o ddiolchgarwch yn dechrau ac mae Scarpia yn datgan y bydd yn plygu Tosca i'w ewyllys. <ref>[https://sfopera.com/1819season/tosca/synopsis/ Opera San Fransisco, Tosca Synopsis] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
 
===Act Dau===
Golygfa: Fflat Scarpia yn y Palazzo Farnese. Min nos. <ref>[http://www.operafolio.com/act.asp?n=Tosca&act=2 Act 2 - Synopsis – OperaFolio] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
 
Yn ei fflat uwchben y Palazzo Farnese, mae Scarpia yn edrych ymlaen at y pleser o gael Tosca o dan ei rym. Ar ôl methu â dod o hyd i Angelotti, mae asiant Scarpia, Spoletta, yn cyrraedd gyda newyddion ei fod wedi dod o hyd i Cavardossi ac wedi ei arestio er mwyn ei holi. <ref>[https://www.classicfm.com/composers/puccini/guides/puccini-tosca-beginners-guide-opera/ Classic FM Puccini's Tosca: a beginner's guide] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
 
Wedi'i holi gan Scarpia, mae Cavaradossi yn gwadu unrhyw wybodaeth am Angelotti ac mae'n cael ei ddedfrydu i gael ei arteithio hyd ildio gwybodaeth. Pan gyrhaedda Tosca, mae Scarpia yn dechrau holi hi, gan ddefnyddio sgrechiadau Cavaradossi i'w phoenydio hi; O dan y gwasgedd hwn, mae Tosca yn datgelu lle cuddio Angelotti.
Llinell 84:
Golygfa : Waliau Castell Sant Angelo. Awr cyn codi'r wawr.<ref>[http://www.operafolio.com/act.asp?n=Tosca&act=3 Tosca - Giacomo Puccini - Act 3 - Synopsis – OperaFolio] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>
 
Clywir bachgen o fugail yn canu yn y pellter. Mae Cavaradossi yn aros ei ddienyddiad. Mae'n ceisio ysgrifennu llythyr o ffarwel i Tosca ac mae'n adlewyrchu ar y llawenydd y mae hi wedi'i rhoi iddo. Mae Tosca'n cyrraedd ac yn datgelu ei chynllun ar gyfer eu dianc. Mae'r sgwad tanio yn perfformio'r hyn y mae Tosca yn credu ei fod yn ffug dienyddiad. Mae'n sylweddoli'n rhy hwyr bod Scarpia wedi twyllo hi: roedd y dienyddiad yn un go iawn ac mae Cavaradossi wedi marw. Mae newyddion am lofruddiaeth Scarpia wedi torri. Wrth i Spoletta a'i ddynion rhuthro i mewn i arestio Tosca, mae hi'n neidio oddi ar wal y castell i'w marwolaeth.<ref>[http://www.geocities.jp/wakaru_opera/englishtosca.html Summary of “Tosca” in 3 Minutes - Opera Synopsis] adalwyd 27 Hydref 2018</ref>.......
 
==Detholiad==
<gallery>
Llinell 271 ⟶ 272:
| isbn = 978-0-86024-972-6
}}
 
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
 
[[Categori:Operâu]]