Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: tr:Gazze Savaşı
Llinell 223:
 
===Cyhuddiadau o droseddau rhyfel===
Mae [[Israel]] wedi cael ei beirniadu gan sawl grŵp hawliau dynol, asiantaethau dyngarol ac eraill am ddefnyddio arfau anghonfensiynol yn erbyn sifiliaid Gaza. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o fomiau [[ffosfforws gwyn]] ar ardaloedd dinesig.<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/200911114222894141.html Fideo: Bomiau ffosfforws gwyn yn ffrwydro dros Gaza] [[Al Jazeera]].</ref> Yn ôl y meddygon yn [[Ysbyty Al-Shifa]] yn ninas Gaza, roedd nifer uchel o'r sifiliaid anafiedig yn dioddef o anafiadau llosg dwfn. Mae dafnau o'r cemegyn ffosfforws gwyn yn llosgi trwy'r cnawd i'r asgwrn. Yn ôl llygad-dystion sifilaidd, defnyddiwyd bomiau ffosfforws gwyn dros ddinas Gaza a [[Jabaliya]] yn ail wythnos y rhyfel. Roedd y bomiau'n tasgu cannoedd o ddafnau llosg dros ardaloedd lle mae nifer o bobl yn byw yn agos iawn i'w gilydd yn Jabaliya. Roedd y mwg gwyn trwchus yn drewi'n ofnadwy ac yn tagu pobl a'i gwneud yn anodd i bobl anadlu. Adroddodd llygad-dyst arall ei bod hi wedi gweld "fflach llachar ac wedyn syrthiodd nifer o wreichionau dros y gymdogaeth gan lanio o gwmpas pobl ac ar eu tai." Dywedodd bod matresi yn ei thŷ hi wedi mynd ar dân o ganlyniad i hyn. Mae'r grŵp Americanaidd [[Human Rights Watch]] yn dweud er nad yw defnyddio ffosforws gwyn ar faes y gad yn anghyfreithlon ynddo ei hun, mae ei ddefnyddio yn fwriadol yn erbyn ardaloedd llawn o sifiliaid yn torri [[cyfraith ryngwladol]].<ref>[http://english.aljazeera.net/news/middleeast/2009/01/20091111392884765.html "'Phosphorus' fears over Gaza wounds" 11.01.2009] [[Al Jazeera]].</ref>
 
Datgelodd meddyg gwirfoddol o Norwy sy'n gweithio yn Ysbyty Al-Shifa fod profion yn dangos olion [[iwraniwm]] (''depleted uranium'') yng nghyrff rhai o'r lladdedigion sifil. Ymddengys fod bomiau [[DIME]] (''Dense Inert Metal Explosive''), sy'n achosi cancr a liwcemia etifeddol ym mobl sy'n anadlu eu llwch, yn cael eu defnyddio gan yr Israeliaid hefyd.<ref>[http://www.presstv.ir/detail.aspx?id=80720&sectionid=351020202 "White phosphorus added to Israeli fire" 05.01.2009]</ref>