Dadfeilio ymbelydrol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:01, 3 Gorffennaf 2010

Proses mewn ffiseg ydy dadfeiliad ymbelydrol pan fo niwclews atomig ansefydlog yr elfen gemegol yn colli neu'n rhyddhau egni drwy ioneiddio gronynnau h.y. drwy daro atomau a bwrw electronau i ffwrdd ohonyn nhw. Tydy'r niwclews (wrth ddadfeilio) ddim yn bwrw yn erbyn gronynnau eraill. Canlyniad y dadfeilio yw fod y fam atom cychwynol yn trawsffurfio i fod yn atom o fath gwahanol (y "ferch"). Er enghraifft: mae'r fam-atom Carbon-14 yn taflu ymbelydredd ac yn trawsffurfio yn nitrogen-14, sef y ferch-atom. Yn ôl rheolau mecaneg cwantwm, ni allwn gyfrifo a rhagweld faint o amser y cymerith i'r atom hwn - a phob atom arall - ddadfeilio. Ond gan bod cymaint o atomau yn dadfeilio ar yr un pryd, gallem fod yn eitha hyderus fod y cyfrifiad yn eitha agos i'w le.[1]

Arwydd sy'n rhybuddio'r darllenydd o beryglon ymbelydredd a graddfa'r perygl hwnnw.

Caiff ymbelydredd ei fesur mewn Becquerelau, Bq. Diffiniad o un Bq ydy un dadfeiliad pob eiliad. Gan bod llawer o atomau mewn sampl labordy, mae'r Bq yn fesur pitw bach iawn a gall fesur cyn lleied â GBq (gigabecquerel, 1 x 109 dadfeiliad yr eiliad) neu TBq (terabecquerel, 1 x 1012 dadfeiliad yr eiliad). Dull arall o fesur ymbelydredd ydy'r curie, Ci.

Cyfeiriadau

  1. [http://www.iem-inc.com/prhlfr.html |title= Decay and Half Life.Adalwyd 14-12-2009