Genedigaeth Gwener: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|''Genedigaeth Gwener'' Paentiad tempera ar gynfas gan Sandro Botticelli (1445-1510) yw '''''G...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:La nascita di Venere (Botticelli).jpg|250px|bawd|''Genedigaeth Gwener'']]
Paentiad tempera ar gynfas gan [[Sandro Botticelli]] (1445-1510) yw '''''Genedigaeth Gwener''''' ([[Eidaleg]]: ''La nascita di Venere''). Cafodd ei greu gan Botticelli ar gyfer ei noddwr [[Lorenzo de' Medici]] yn 1485.<ref>Deimling, Barbara. ''Sandro Botticelli''. 2000. Taschen, Art & Art Instruction, ISBN 3822859923, tud. 95.</ref> Mae i'w cael yn [[Oriel Uffizi]] (''Galleria degli Uffizi'') yn [[Fflorens]], [[yr Eidal]] ac ynmae'n un o'r gweithiau celf mwyaf adnabyddus yn y byd.
 
Pwnc y darlun yw genedigaeth y dduwies [[Gwener (duwies)|Gwener]] ([[Aphrodite]]) o'r môr yng [[Cyprus|Nhyprus]]. Mae'n adlewyrchu diddordeb [[Dyneiddiaeth|dyneiddwyr]] y [[Dadeni Dysg]] ym mytholeg a diwylliant [[yr Henfyd]]. Mae'r darlun alegorïaidd yn cynrychioli cyflwyno harddwch i'r byd. Daw Gwener o'r môr mewn cawod o rosynnau ar gragen a yrrir gan dduwiau'r awyr. Wrth iddi baratoi i roi ei throed ar y lan mae [[nymff]] yn ymestyn mantell borffor iddi (mae porffor yn lliw a gysylltir â thras uchel a brenhiniaeth fel yn achos "porffor ymerodrol" [[Ymerodraeth Rufeinig|Ymerawdwyr Rhufain]]).<ref>E. H. Gombrich, ''The Story of Art'' (Phaidon, 1951), tud. 192.</ref> Mae'r cynfas yn mesur 172.5 × 278.5 cm (67.91 × 109.65 modfedd).<ref>Deimling, Barbara. ''Sandro Botticelli''. 2000. Taschen, Art & Art Instruction, ISBN 3822859923, tud. 95.</ref>