Mesopotamia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:Standard of Ur - War.jpg|250px|bawd|Rhan o Faner [[Ur]]: gorymdaith Rhyfel]]
:''Gweler hefyd: [[Mesopotamia (gwahaniaethu)]].''
Y rhanbarth hanesyddol sy'n gorwedd rhwng [[Afon Tigris]] ac [[Afon Ewffrates]] yng ngogledd-ddwyrain y [[Dwyrain Canol]] yw '''Mesopotamia''' ([[Groeg]]: μέσοποταμός 'Rhwng yr Afonydd'). Mae cnewyllyn hanesyddol y diriogaeth yn gyfateb yn fras i ganolbarth [[Irac]] heddiw, ond defnyddir yr enw hefyd (weithiau fel 'Mesopotamia Fawr') i ddynodi ardal sy'n cynnwys Irac, dwyrain [[Syria]], rhannau o dde-ddwyrain [[Twrci]] a de-orllewin [[Iran]]. Mae'n ffurfio pen dwyreiniol y [[Cryman Ffrwythlon]] ac yn cael ei alw'n grud gwareiddiad. Mae'r tir rhwng y ddwy afon ac ar eu glannau'n hynod o ffrwythlon am ei fod yn dir [[llifwaddod]]ol; bob tro mae'r afonydd hynny'n gorlifo gedwir llifwaddod ar eu hôl.
 
Y bobl cyntaf i fanteisio ar hyn ar raddau sylweddol oedd y [[Swmer]]iaid, a ymseyflodd ym Mesopotamia tua [[4,000 CC]] i drin y tir ffrwythlon a thyfu cnydau. Sefydlasant un o'r gwareiddiadau cyntaf yn hanes y byd a flodeuai yn ninas-wladwriaethau [[Ur]], [[Kish]], [[Uruk]] a safleoedd eraill. Yna daeth ymsefydlwyr eraill i'r ardal a daeth ymerodraeth [[Akkad]], a sefydlwyd gan [[Sargon]] yn Kish, i ddominyddu'r wlad. Daeth dinas [[Babilon]] yn brifddinas Mesopotamia dan y brenin [[Hammurabi]], enwog am [[Cyfraith Hammurabi|y cyfreithiau manwl]] a luniwyd yn ystod ei deyrnasiad (ar sail cyfreithiau hŷn). Ar ôl Hammurabi cafodd y rhanbarth ei meddianu gan oresgynwyr newydd - y [[Casiaid]], yr [[Asyriaid]] a'r [[Persiaid]] - ac ildiodd Mesopotamia le i'r [[Aifft]] Hynafol fel blaenredegydd gwareiddiad yn yr [[Henfyd]]. Yn ddiweddarach daeth dan reolaeth [[Alecsander Mawr]] a'i olynwyr, yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] a'r Persiaid cyn cael ei chwncweru gan y [[Islam|Mwslemiaid]] yn y [[7g]].
 
Dan y [[Califf]]iaid yn [[Baghdad]] tyfodd yr ardal i fod yn ganolfan dysg a diwylliant [[Islam]]aidd gyda Baghdad yn brifddinas [[ymerodraeth]] a ymestynnai o dde [[Sbaen]] a'r [[Maghreb]] i ffiniau [[Affganistan]] ac [[India]]. Yn y [[13g]] cwncweriwyd yr ardal gan y [[Mongoliaid]] dan [[Hulagu]] a'r [[Tartariaid]] dan [[Timus]] a dinistriwyd nifer o lefydd. Bu'n dyst wedyn i ymgiprys am rym rhwng [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]] a'r Persiaid. Arhosodd Mesopotamia ym meddiant [[Twrci]] hyd ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a ffurfiwyd teyrnas [[Irac]] fel tiriogaeth ddibynnol dan [[yr Ymerodraeth Brydeinig]] (gweler [[Irac]]).
 
[[Categori:Mesopotamia| ]]